麻豆官网首页入口

Cyfarfod i drafod dyfodol swyddfa gwaith dur Shotton

  • Cyhoeddwyd
John Summers buildingFfynhonnell y llun, Y Gymdeithas Fictoraidd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddechreuodd y gwaith ar adeilad John Summers yn 1907

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal nos Lun i drafod ailagor swyddfa gwaith dur Shotton fel adnodd i'r gymuned.

Mae'r adeilad sydd 芒 chloc ar ei d诺r wedi'i gofrestru fel adeilad Gradd II ac yn ddiweddar mae wedi cael ei dargedu gan fandaliaid.

Cafodd ei adeiladu yn 1907 pan gafodd y gwaith dur yng Nglannau Dyfrdwy ei ehangu - gwaith a oedd ar un adeg yn cyflogi 10,000.

Mae'r adeilad wedi newid dwylo bedair gwaith.

Bellach mae gr诺p lleol - Sefydliad Enbarr - yn ceisio cael cefnogaeth i'w agor fel adnodd cymunedol.

Ym mis Medi, dywedodd y Gymdeithas Fictoraidd eu bod yn poeni am yr adeilad, gan ei gynnwys ar restr o ddeg adeilad sydd mewn peryg.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Fflint
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd ei godi yn 1907

Dywedodd cyfarwyddwr y Gymdeithas, Christopher Costelloe y dylai'r "adeilad Edwardaidd godidog fod yn arddangos gorffennol diwydiannol Shotton - ond nid yw'n cael ei ddefnyddio a bob dydd mae 'na risg o fandaliaeth neu bod rhywun yn dwyn ohono."

Yn 2010 fe dalodd cwmni datblygu Pochin 拢5m am 200 erw o dir a oedd yn berchen i Waith Shotton gan gynnwys y swyddfa gyffredinol ac adeiladau eraill.

Yn 2014 fe gawson nhw s锚l bendith i ddatblygu'r safle ar gyfer dibenion busnes, manwerthu a hamdden a'r bwriad oedd codi parc technoleg o gwmpas y swyddfa gyffredinol.