Adroddiadau bod pryderon am brosiect Wylfa Newydd

Ffynhonnell y llun, Horizon

Disgrifiad o'r llun, Byddai'r gwaith o adeiladu'r adweithyddion yn dechrau yn 2020 pe bai'n cael ei gymeradwyo

Mae adroddiadau yn Japan bod cwmni Hitachi yn ystyried cefnu ar eu cynlluniau 拢12bn i adeiladu gorsaf b诺er niwclear Wylfa Newydd.

Mae asiantaeth newyddion Asahi yn dweud bod pryderon am gynnydd pellach yng nghostau adeiladu'r orsaf, ac y bydd bwrdd Hitachi yn trafod y prosiect mewn cyfarfod ddydd Mawrth.

Dywedodd Hitachi na fyddai'n ymateb i "sibrydion neu ddyfalu".

Byddai tua 9,000 o weithwyr yn cael eu cyflogi i adeiladu'r ddau adweithydd ar Ynys M么n pe bai'r cynlluniau'n cael eu cymeradwyo.

Y gobaith yw y byddai'r orsaf yn cynhyrchu 2,900 megawat o b诺er erbyn canol y 2020au, ac y byddai'n weithredol am 60 mlynedd.

Ymgais am gytundeb gwell?

Fe wnaeth hen orsaf b诺er Wylfa gau yn 2015 ar 么l gwasanaethu am dros 40 mlynedd.

Is-gwmni Hitachi, Horizon, fyddai'n gyfrifol am adeiladu'r orsaf newydd pe bai'r cwmni'n penderfynu parhau gyda'u cynlluniau.

Dywedodd llefarydd o Hitachi-Horizon eu bod wedi bod yn trafod cynlluniau i ariannu Wylfa Newydd gyda Llywodraeth y DU ers mis Mehefin i geisio canfod modd sy'n "gweithio i fuddsoddwyr a chwsmeriaid yn y DU".

Mae'n debyg y byddai Llywodraeth y DU yn cymryd si芒r yn y prosiect pe bydden nhw'n dod i gytundeb gyda Llywodraeth Japan yngl欧n 芒 buddsoddi yn y cynllun.

Mae rhai yn credu bod yn adroddiadau diweddaraf ynglyn 芒'r prosiect yn ymgais gan Hitachi i gael cytundeb ariannol gwell gan lywodraethau Prydain a Japan.

Mae gwaith cychwynnol eisoes wedi dechrau ar y safle, er bod Horizon eto i sicrhau caniat芒d cynllunio llawn.