麻豆官网首页入口

Carwyn Jones: Edrych yn 么l ar gyfnod y Prif Weinidog

  • Cyhoeddwyd
Carwyn JonesFfynhonnell y llun, Reuters

Balch a bregus.

Er yr anghysondeb rhyfeddol yn y frawddeg, dyna sut y bydd Carwyn Jones yn camu lawr.

Yn aml, diwedd y daith mewn gwleidyddiaeth sydd yn diffinio'r gwaddol yn hytrach na'r cerrig milltir ar y ffordd.

Dyma enghraifft berffaith o hynny.

Mae marwolaeth Carl Sargeant wedi taro Carwyn Jones yn galed, mae'n meddwl am y peth yn ddyddiol ac wedi teimlo'n isel iawn o ganlyniad.

Fuodd o erioed yn Brif Weinidog oeraidd, nid gyda mi beth bynnag, ond mi roedd o'n ddiffwdan. Roedd y gwir gymeriad a'i deimladau weithiau'n cuddio o dan glogyn cyn far gyfreithiwr.

O'i wirfodd, yng nghyfnod mwyaf sobor datganoli, bu'n agor ei galon gan adael y llwyfan yn fwy gwylaidd gyda'r tinc o fod yn fawreddog yn prysur bylu.

Rheolwr nid arloeswr

Ddylai'r hyn ddigwyddodd fis Tachwedd diwethaf ddim ein dallu ni chwaith. Ein swyddogaeth ni ydi asesu a fuodd Cymru ar ei hennill o gael Carwyn Jones yn Brif Weinidog.

Rheolwr nid arloeswr fuodd o. Golygodd agenda llymder Llywodraeth San Steffan ei fod o'n Llywodraethu gydag un llaw tu 么l ei gefn.

Mae'n egluro pam y bu'r fath bwyslais ar y cyfansoddiad; troi'r cynulliad yn senedd-dy a phwerau deddfu llawn yn 2011 oedd uchafbwynt ei naw mlynedd.

Pwerau ychwanegol - oes. Ond beth am y problemau? Wel, maen nhw'n styfnig, yn llusgo'u traed fel yr oedden nhw n么l yn 2009.

Ydy, mae'r farchnad lafur wedi cynhesu ond mae cyflogau yng Nghymru yn is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig. Heddiw bydd bron i 200 mil o blant yn deffro o'u gwelyau mewn tlodi cymharol ac yn mynd i'r ysgol ond llai na hanner o'r rhai uwchradd sydd yn dda neu'n rhagorol yn 么l archwilwyr.

Heb anghofio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd angen "cyfeiriad cenedlaethol cryfach" yn 么l adroddiad annibynnol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Carwyn Jones yn trafod gydag Aled ap Dafydd

Ai'r pwll ariannol redodd yn sych neu ffynnon y syniadau?

Yn y diwedd daeth y swydd yn rhy gyfarwydd, yr awydd i brofi pethau newydd ar 么l troi'n 50 yn amhosib i'w anwybyddu. Straen salwch Lisa ei wraig yn 2016 a chwmwl du marwolaeth ei gyfaill yn gadael craith a ffurfio blaenoriaethau newydd.

Am nifer o resymau roedd cadw'r fflam ynghyn yn ormod a'r dyhead gwreiddiol i arwain am gyfnod hirach na'i ragflaenydd yn teimlo'n ddiangen.

Mae'r gwaith yn teimlo'n anorffenedig.

"Sut hoffech chi gael eich cofio," medda fi wrth Carwyn Jones.

"Rhywun agored, rhywun onest, rhywun oedd wedi gobeithio wedi gadael Cymru mewn gwell sefyllfa na ffeindies i fe nol yn 2009. Ond nid fi yw'r person gorau i farnu."

A dyna Carwyn Jones mewn brawddeg. Balch a bregus.