麻豆官网首页入口

Cadarnhau Mark Drakeford fel prif weinidog nesaf Cymru

  • Cyhoeddwyd
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Mark Drakeford wedi cael ei gadarnhau fel prif weinidog nesaf Cymru.

Enillodd Mr Drakeford 30 o bleidleisiau yn y Senedd brynhawn Mercher.

Cafodd arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price hefyd eu henwebu gyda Mr Davies yn sicrhau 12 o bleidleisiau a Mr Price 9.

Fe wnaeth pum AC ymatal eu pleidlais, ac roedd dau yn absennol. Nid yw'r Llywydd na Dirprwy-Lywydd yn pleidleisio.

Dywedodd Mr Drakeford mewn araith fod angen "gwneud gwahaniaeth mewn byd rhanedig a chythryblus".

Fe wnaeth Carwyn Jones ymddiswyddo ddydd Mawrth ar 么l naw mlynedd wrth y llyw, ac fe gafodd ACau wybod ddydd Mercher bod y Frenhines wedi derbyn ei ymddiswyddiad.

Yn ei araith olaf, dywedodd ei fod yn teimlo'n "chwerw felys" wrth adael ond fod gwasanaethu yn y swydd wedi bod yn "anrhydedd".

Digon o gefnogaeth

Mae gan y blaid Lafur 29 o'r 60 Aelod Cynulliad, ond roedd nhw hefyd yn ddibynnol ar gefnogaeth dau arall.

Pleidleisiodd y Democrat Rhyddfrydol Kirsty Williams a'r aelod annibynnol Dafydd Elis-Thomas hefyd ar gyfer Mark Drakeford.

Roedd Ms Williams yn Ysgrifennydd Addysg a'r Arglwydd Elis-Thomas yn weinidog diwylliant yn llywodraeth Carwyn Jones, ac mae disgwyl iddyn nhw aros yn y cabinet dan Mr Drakeford.

Fel arfer mae'r broses o enwebu'r prif weinidog yn un gymharol ddiffwdan, gydag arweinydd y blaid sydd 芒'r nifer fwyaf o ACau yn ennill y dydd.

Ond yn 2016 cafwyd pleidlais gyfartal rhwng Mr Jones ac arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, Leanne Wood, wedi i ACau y Ceidwadwyr a UKIP gefnogi ei henwebiad hi.

'Cyfle a chyfrifoldeb'

Wrth dderbyn y swydd dywedodd Mr Drakeford: "Mae'n anrhydedd enfawr cael arwain plaid wleidyddol yma yng Nghymru, ac un fwy cael ey enwebu a'm hethol fel Prif Weinidog yn y Cynulliad.

"Rwy'n ymwybodol iawn o'r cyfle a'r cyfrifoldeb sy'n dod gyda'r swydd."

Mae disgwyl i'r Frenhines gadarnhau'r penodiad o fewn y 24 awr nesaf.

Bydd angen i Mr Drakford wedyn dyngu llw o flaen barnwr cyn y gall gymryd yr awenau yn swyddogol.

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 麻豆官网首页入口 Cymru Fyw