麻豆官网首页入口

Drakeford wedi 'gwrthod cyfarfod wyneb-yn-wyneb 芒 May'

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe deithiodd Mark Drakeford yn 么l i Gaerdydd yn fuan wedi cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ddydd Mercher

Mae Mark Drakeford wedi cael ei feirniadu am wrthod cyfarfod un-i-un gyda Theresa May - y cyntaf ers iddo ddod yn brif weinidog - er mwyn teithio i Gaerdydd ar gyfer dathliad gydag aelodau Llafur.

Roedd Mr Drakeford i fod i gyfarfod Mrs May am 14:00 ddydd Mercher, ond fe ddywedodd ei swyddfa hithau bod yn rhaid ei gynnal yn hwyrach yn y dydd gan gynnig ei aildrefnu yn gynnar yr un noson.

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru yn ddeall bod y cynnig hwnnw wedi ei wrthod oherwydd "ymrwymiad blaenorol yng Nghaerdydd", sef parti diolch i bobl oedd yn rhan o ymgyrch Mr Drakeford i olynu Carwyn Jones.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod yr honiad "yn nonsens llwyr" a bydd y cyfarfod yn cael ei aildrefnu.

'Rhaid i mi ddod adref'

Fe wnaeth Mr Drakeford gwrdd 芒 Mrs May - ynghyd 芒 Nicola Sturgeon, prif weinidog Yr Alban a chynrychiolwyr o Ogledd Iwerddon - yn ystod cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, gan drafod materion yn cynnwys goblygiadau Brexit heb gytundeb gyda'r UE.

Ond dyw'r ddau heb gael cyfarfod un-i-un ers penodiad Mr Drakeford yn brif weinidog Cymru.

Mae ffynhonnell oedd yn y parti wedi dweud wrth 麻豆官网首页入口 Cymru bod Mr Drakeford wedi dweud wrthyn nhw: "Mae Jeremy Corbyn yn gwybod amdanoch chi achos fe wnaethoch chi gynnal ymgyrch ffantastig i fy ethol i.

"Doedd Theresa May ddim yn gwybod amdanoch chi ond mi mae hi nawr oherwydd fe ddywedais i wrthi fod rhaid i mi ddod adref i gwrdd 芒 chi gyd.

"Fe gynigiodd hi un-i-un i mi ond dywedais i fod gen i ymrwymiad blaenorol gyda chi gyd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod Theresa May wedi gohirio'r trefniant gwreiddiol ar fyr rybudd

Dywedodd AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards bod Mr Drakeford wedi "cefnu'n gywilyddus ar ei gyfrifoldeb".

"Ar ddiwrnod oedd yn nodi 100 niwrnod cyn Brexit, roedd y prif weinidog o'r farn bod hi'n fwy addas i yfed siamp锚n gyda'i f锚ts na sicrhau llais i Gymru yn San Steffan," meddai.

"Mae rhoi eich plaid wleidyddol o flaen eich gwlad yn warthus, mae rhoi dathliad o flaen eich gwlad yn wallgofrwydd."

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Paul Davies nad oedd hwn yn "ddechrau da" i Mr Drakeford.

"Mae'n hollbwysig bod gyda ni unigolyn ymroddgar sy'n fodlon mynd i'r eithaf i sicrhau bod pobl Cymru'n cael eu cynrychioli ar y lefel uchaf.

"Rwy'n gwerthfawrogi bod gydag e ymrwymiadau eraill ond siawns y gallai fod wedi aildrefnu'r parti gan y dylid blaenoriaethu trafodaethau gyda'r prif weinidog."

'Nonsens'

Mewn ymateb i'r feirniadaeth dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hyn yn nonsens llwyr.

"Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru gwrdd 芒'r Prif Weinidog ddoe ac mae hefyd wedi cael trafodaeth fanwl gyda hi dros y ff么n yn gynharach yn yr wythnos.

"Roedd cyfarfod rhwng y ddwy ochr yn gynnar yn y dydd ddoe wedi ei drefnu, ond bu'n rhaid i'r Prif Weinidog aildrefnu ar fyr rybudd oherwydd ymrwymiadau eraill. Bydd y cyfarfod yn cael ei aildrefnu."