Llythyr yn annog Drakeford i gefnogi refferendwm arall

Disgrifiad o'r llun, Mae galw ar y Prif Weinidog Mark Drakeford i ymgyrchu am refferendwm arall ar Brexit

Mae refferendwm arall ar Ewrop yn "bosibilrwydd real" yn 么l Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

Dywedodd ei fod yn bosib hefyd y gallai Llywodraeth Cymru ymgyrchu o blaid aros petai pleidlais o'r fath yn cael ei chynnal.

Ond dywedodd Mr Drakeford fod ei lywodraeth yn blaenoriaethu etholiad cyffredinol dros bleidlais gyhoeddus arall ar yr Undeb Ewropeaidd.

Daw ei sylwadau yn dilyn llythyr gafodd ei gyhoeddi gan 62 o wleidyddion ac ymgyrchwyr - gan gynnwys aelodau gr诺p Llafur y Cynulliad - yn galw arno i gefnogi refferendwm arall.

'Angenrheidiol'

Mae'r llythyr, sydd hefyd yn cynnwys llofnodion ffigyrau blaenllaw o Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, yn dweud mai pleidlais gyhoeddus yw'r "unig ffordd allan o le llywodraethol amhosib" wrth drafod Brexit.

Mae'r ymgyrchwyr am gynnwys aros yn yr Undeb Ewropeaidd fel opsiwn ar y papur pleidleisio.

Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun dywedodd Mark Drakeford nad oedd yn gwrthwynebu cynnal refferendwm arall, ond bod camau y byddai angen eu dilyn gyntaf.

Roedd disgwyl i Aelodau Seneddol yn San Steffan bleidleisio ym mis Rhagfyr ar y cytundeb Brexit rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd, ond gohiriodd gweinidogion y bleidlais yn wyneb gwrthwynebiad o fewn y llywodraeth.

Disgrifiad o'r llun, Ddydd Llun fe wnaeth Mark Drakeford gynnal ei gynhadledd i'r wasg cyntaf ers dod yn brif weinidog

Fe fydd pleidlais ar y cytundeb nawr yn cael ei chynnal ar 15 Ionawr yn Nh欧'r Cyffredin.

Mewn llythyr agored i Mr Drakeford, dywedodd gr诺p Cymru gwrth-Brexit dros Ewrop: "Mae anferthedd y sefyllfa yn gofyn am arweiniad dewr ac eglurdeb oddi wrth y gwrthbleidiau yn ogystal 芒'r llywodraeth, ac yn gofyn am ymgynghori eto gyda'r cyhoedd.

"Dyma'r unig ffordd allan o'r lle llywodraethol amhosib yma."

Yn 么l awduron y llythyr: "Rydych wedi galw'n barod am estyniad i gyfnod Erthygl 50 wedi 29 Mawrth 2019, ond rydym nawr yn eich annog i ddefnyddio eich swydd newydd i fynnu - oddi wrth lywodraeth y DU ac arweinydd eich plaid - Pleidlais y Bobl newydd lle mae parhau'n aelod o'r Undeb Ewropeaidd yn opsiwn ar y papur pleidleisio.

"Mae'r bleidlais gyhoeddus newydd yma'n angenrheidiol, hyd yn oed petai etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal."

Mae naw AS Llafur a phedwar AC Llafur - gan gynnwys y cyn-weinidog Alun Davies - wedi arwyddo'r llythyr, ar y cyd gyda 13 o ASau ac ACau Plaid Cymru.

Cafodd hefyd ei arwyddo gan ASE Plaid Cymru Jill Evans, ASE Llafur Derek Vaughan, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Jane Dodds, arweinydd Gwyrddion Cymru Anthony Slaughter, tri arweinydd cyngor Llafur, a dau arweinydd cyngor Plaid Cymru.

'O blaid aros'

Fe wnaeth Mr Drakeford olynu Carwyn Jones fel Prif Weinidog ym mis Rhagfyr.

Yn ei gynhadledd i'r wasg gyntaf ers cymryd y swydd, dywedodd Mr Drakeford y gallai ddatgan cefnogaeth dros ail refferendwm petai'r amgylchiadau'n iawn.

"Os nad oes cytundeb yn Nh欧'r Cyffredin a dim etholiad cyffredinol, dydyn ni ddim yn gweld dewis arall ond mynd yn 么l at y cyhoedd a gofyn iddyn nhw benderfynu," meddai.

Ychwanegodd Mr Drakeford y byddai Llywodraeth Cymru mwy na thebyg yn ymgyrchu dros aros yn yr UE petai'r opsiwn yn cael ei gynnig mewn refferendwm.

Yn gynharach fe wnaeth dros 200 o ASau, gan gynnwys 21 o Gymru, arwyddo llythyr yn galw ar Theresa May i ddileu'r posibilrwydd o adael yr UE heb gytundeb.

Ategodd Mr Drakeford hynny, gan ddweud y byddai Brexit heb gytundeb yn "drychinebus" i economi Cymru.