麻豆官网首页入口

Digartrefedd cudd: Awdur fu'n cysgu'n y car a syrffio soffas

  • Cyhoeddwyd

Mae'r awdur a'r gohebydd Jon Gower yn wyneb cyfarwydd i lawer, ond ychydig fyddai'n dyfalu ei fod wedi wynebu cyfnodau anodd yn ei fywyd ac wedi profi amryw ffurfiau digartrefedd.

Dyma fe i esbonio sut gyrhaeddodd y fath bwynt, a sut lwyddodd i straffaglu o'r twll:

Ffynhonnell y llun, Marian Delyth

Dwi'n cofio gwneud rhaglen ddogfen ar gyfer Y Byd ar Bedwar yn y 90au am bobl ifanc digartref yng Ngwynedd. Gyda chymorth Brian Thirsk oedd yn gweithio i GISDA, sef corff sy'n gweithio gyda phobl ifanc sy'n agored i niwed yn ein cymdeithas. Cefais gipolwg ar ffordd o fyw oedd yn gwbl estron i mi sef symud o d欧 i d欧, o soffa i soffa neu o garej i garej i chwilio am loches nosweithiol.

Prin y dychmygwn bryd hwnnw y buaswn innau yn syrffio soffas fy hun un dydd. Yn debyg iawn i'r sipsi yn y gerdd gan Crwys sy'n 'newid aelwyd bob yn eilddydd.'

Dyn o dan draed

Digwyddodd yn ddigon disymwth, y datgymalu. Chwalodd fy mhriodas gyntaf gan greu baich ariannol ynghyd 芒 gwacter emosiynol.

Bu ffrindiau lu yn ddigon caredig i roi to dros fy mhen ac yn aml byddai soffa yn cymryd lle gwely. Ond un bore clywais blant i un o fy ffrindiau yn gofyn a allent edrych ar y teledu neu a oedd Jon yno eto? Teimlais na allwn barhau i fod yn faich ar deuluoedd fy ffrindiau yn ogystal 芒'r ffrindiau eu hunain.

Felly dyma droi am adre' yn yr ystyr o symud i fyw gyda'n fam ym mhentref Pwll ger Llanelli gan wisgo mantell drom o fethiant ar fy ysgwydd. Roedd Mam yn hapus i'm cael yn 么l, yn hapus i gael cwmni ond roedd un peth yn anodd iawn, sef y ffordd roedd yn dal i'm trin fel bachgen ac nid oedolyn. Mae'n anodd cadw hunan-barch os mae'ch mam yn awgrymu ei fod yn amser mynd i'r gwely, a hithau'n naw o'r gloch y nos. A minnau'n ddyn yn ei ddeugeiniau.

Pob dim yn help

Yn y pendraw es i fyw yn y car, gan barcio tu 么l i Tesco Extra yng Nghaerdydd. Nid oedd hyn yn hawdd iawn iawn, ond doedd e ddim cynddrwg 芒 byw ar y stryd neu'r palmant.

Dwi ddim yn si诺r am ba hyd wnes i hyn, dim mwy nag wythnos efallai cyn i mi benderfynu chwilio am lety drwy'r Cyngor, a chofrestru'n ddigartref.

Cofiaf i bobl tu n么l i ddesgiau'n bod yn garedig iawn, ond roedd hyn fel gadael un byd am fyd arall, gyda'u cwestiynau oedd yn eu hunain yn dibrisio person a'i werth.

Golau pen draw'r twnel?

Yn union yr un adeg cwrddais 芒 hen ffrind wnaeth ddweud bod swydd newydd ei hysbysebu yn y 麻豆官网首页入口 ar gyfer gohebydd celfyddydau a chyfryngau gan awgrymu fod gen i'r cymwysterau angenrheidiol a'm hysgogi i wneud cais amdano.

Ond esboniais nad oeddwn yn teimlo'n arbennig o hunan-hyderus ar y pryd. Llwyddodd y ffrind i'm perswadio, gan lenwi'r ffurflen yn y llyfrgell.

Pan ges i wahoddiad i fynd am gyfweliad bu'n rhaid i mi gael dillad o siop elusen ac ar y diwrnod roedd fy nerfau, heb s么n am fy hunan-gred, yn rhacs. Cofiaf i mi drafod darlledu'n fyw - cyfle i mi arddangos hyder mewn sgiliau nad oeddwn, mewn gwirionedd, yn berchen arnynt - ond ni lwyddais i yngan yr un gair.

Roedd fy ngheg yn rhy sych ac er i mi gael un llond gwydr o dd诺r nid oedd hwnnw'n ddigon i iro'r llwnc, na thawelu'r galon garlamus.

Trobwynt

Ynghanol hyn i gyd credaf i mi weld fforch yn yr hewl o'm mlaen, un cyfeiriad yn arwain at swydd dda, ddiddorol, llawn sialens - ac wrth gwrs cyfle i chwilio a thalu am gartref i fi fy hun - a'r llall yn arwain at glustog galed iawn y palmant neu un o'r fflatiau DSS roeddwn wedi ffilmio ynddynt dros y blynyddoedd, llefydd llaith, diflas, digysur.

Rhywsut, rhywfodd llwyddais i gael y swydd a chredaf i mi fod yr unig ohebydd i'r 麻豆官网首页入口 oedd 'of no fixed abode at time of interview'.

Mwy nag un math o ddigartrefedd

Nid oedd bod yn ddigartref fel hyn mor anodd 芒 bywydau'r pedwar boi wnes i gwrdd yn eu pebyll yng nghanol dinesig Caerdydd y llynedd, tri o'r pedwar yn gyflogedig blwyddyn ynghynt.

Dyna'r digartrefedd sy'n wynebu chwiliwr lloches sy'n dod i aros yn ein cartref ni yr wythnos yma, cyn ei ap锚l i aros yn y wlad. Ond heb os nac oni bai mi welais y fforch yn yr hewl a phetaswn heb fod mor lwcus 芒 chael swydd newyddiadurol gyda'r Gorfforaeth pwy a 诺yr beth fyddai wedi digwydd?

Llithro lawr drwy haenau cymdeithas efallai, nes gadael cymdeithas yn gyfan gwbl. Neu fel ma' nhw'n dweud yn yr iaith fain, mynd ar y skids.

Gall ddigwydd i unrhywun!

Mae'n medru digwydd yn hawdd, ac mae'n digwydd i ormod o bobl a dyw'r rhagolygon ddim yn dda, yng ngwyneb y gwyntoedd oer sy'n chwyrlio drwy'r wlad, yn enwedig oherwydd ansicrwydd cynyddol Brexit ar ben llymder incwm cynghorau a'r pwysau ar bob un ohonynt o ran cyflenwi eu dyletswyddau statudol.

Mae'r argyfwng digartrefedd i'w weld yn glir ar ein strydoedd - y pebyll ar Stryd y Frenhines reit ynghanol Caerdydd, er enghraifft. Ond fel y rhewfynydd yn arnofio ar f么r oer mae mwy ohono allan o'r golwg, a'r gair 'cartref' ei hun fel gair anghyfarwydd o iaith estron i nifer cynyddol o bobl sy'n newid aelwyd yn rhy aml.

Efallai o ddiddordeb