Cyhuddo Theresa May o beidio brwydro dros Wylfa Newydd

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Albert Owen fod angen i Lywodraeth y DU wneud mwy

Mae Theresa May wedi cael ei chyhuddo o ganolbwyntio ar Brexit yn hytrach na cheisio ymladd i sicrhau fod gorsaf niwclear newydd yn cael ei chodi ar Ynys M么n.

Ddydd Gwener daeth adroddiadau fod bwrdd rheoli Hitachi yn debygol o benderfynu atal y gwaith sy'n mynd rhagddo ar safle Wylfa Newydd yr wythnos nesaf.

Fe wnaeth gwleidyddion ac undebau feirniadu Mrs May am beidio 芒 thrafod y mater gyda phrif weinidog Japan pan gyfarfu'r ddau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod trafodaethau gyda Hitachi yn parhau.

Mae yna ddyfalu cynyddol wedi bod y byddai'r cwmni o Japan yn cefnu ar brosiect Horizon - cynllun gwerth 拢20bn.

Yn 么l adroddiadau, mae'r cwmni'n poeni oherwydd y posibilrwydd y bydd costau adeiladu yn cynyddu.

Dywedodd AS Llafur Ynys M么n, Albert Owen ei fod am wybod gan weinidogion "beth sy'n mynd o'i le yma, a pham fod y cwestiynau a'r pryderon yma yn cael eu clywed am ddyfodol y safle."

Ychwanegodd: "Mae'r llywodraeth wedi bod yn canolbwyntio gormod ar Brexit."

Disgrifiad o'r llun, Ni chafodd atomfa Wylfa Newydd ei thrafod yn y cyfarfod rhwng Shinzo Abea a Theresa May ddydd Iau

Dywedodd undeb Unite eu bod wedi eu syfrdanu na chafodd y sefyllfa ei thrafod gan Theresa May a phrif weinidog Japan Shinzo Abe, pan fu'r ddau yn cyfarfod ddydd Iau.

"Roedd hyn yn esgeulustod gan Theresa May o ran ei chyfrifoldebau," meddai Peter McIntosh, swyddog ynni undeb Unite.

Dywedodd fod angen i Lywodraeth y DU weithredu er mwyn sicrhau fod y prosiect yn symud ymlaen, gan ychwanegu pe na bai'r atomfa yn cael ei hadeiladu y byddai'n cael "effaith dychrynllyd ar economi Cymru ac ar allu'r DU i gwrdd 芒'i gofynion yn wyneb newid hinsawdd".

Yn 么l Justin Bowden, ysgrifennydd cyffredinol undeb y GMB, roedd angen i Lywodraeth y DU gynnig arian ar gyfer y prosiect er "mwyn sicrhau ein bod yn cwrdd ag anghenion ynni'r DU".

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod yr adroddiad yn Nikkei Asian Review yn achos pryder.

Ffynhonnell y llun, Horizon Nuclear

Disgrifiad o'r llun, Byddai prosiect Wylfa Newydd yn creu miloedd o swyddi wrth adeiladu'r atomfa

Ddydd Gwener, dywedodd Hitachi bod atal y gwaith yn opsiwn.

"Nid oes unrhyw benderfyniad ffurfiol wedi ei wneud ar hyn o bryd, er bod Hitachi wedi asesu Prosiect Horizon yn cynnwys y posibilrwydd o'i atal a'r effeithiau ariannol cysylltiedig," meddai llefarydd.

Y bwriad oedd gallu cynhyrchu trydan erbyn canol y 2020au, a bod yn weithredol am 60 o flynyddoedd.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU: "Mae trafodaethau'n parhau gyda Hitachi ar ddod i gytundeb sy'n darparu gwerth am arian i gwsmeriaid a threthdalwyr o brosiect Wylfa.

"Maen nhw'n rhai sy'n fasnachol sensitif a dydyn ni ddim yn gwneud sylw ar s茂on."