麻豆官网首页入口

Hitachi'n cwrdd i drafod dyfodol cynllun Wylfa Newydd

  • Cyhoeddwyd
Wylfa NewyddFfynhonnell y llun, Horizon Nuclear

Mae disgwyl penderfyniad yr wythnos hon ynghylch dyfodol cynllun gwerth 拢20bn i godi atomfa newydd yn Ynys M么n wrth i fwrdd rheoli cwmni Hitachi gwrdd ddydd Llun.

Yn 么l adroddiadau mae'r cwmni o Japan ar fin atal y gwaith sy'n digwydd dan adain Horizon ar safle Wylfa Newydd.

Mae yna amcangyfrif bod y prosiect 芒'r potensial i greu 400 o swyddi parhaol a thua 9,000 o swyddi yn y cyfnod adeiladu.

Mae Hitachi wedi dweud nad oes penderfyniad ffurfiol hyd yma, ond bod atal y gwaith yn opsiwn. Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn dal mewn trafodaethau gyda Hitachi.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) bod trafodaethau "masnachol sensitif" yn canolbwyntio ar gytundeb "sy'n rhoi gwerth am arian i ddefnyddwyr a threthdalwyr".

Ychwanegodd: "Dydyn ni ddim yn gwneud sylw mewn ymateb i ddamcaniaethu."

'Breuddwyd chwerthinllyd'

Daeth awgrym ddydd Gwener bod Hitachi'n bwriadu rhoi'r gorau i gynllun Wylfa Newydd wedi misoedd o ddyfalu bod y prosiect dan fygythiad.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bryd hynny fod yr adroddiad ym mhapur Nikkei Asian Review yn Japan yn achos pryder.

Cafodd Prif Weinidog y DU, Theresa May feirniadaeth gan wleidyddion ac undebau am beidio 芒 thrafod y mater gyda phrif weinidog Japan, Shinzo Abe pan gyfarfu'r ddau ddydd Iau.

Mae Mrs May wedi cael ei chyhuddo o ganolbwyntio ar Brexit yn hytrach na cheisio ymladd i sicrhau bod yr atomfa yn cael ei chodi ar Ynys M么n.

Yn 么l yr aelod o gabinet Cyngor Sir Ynys M么n sy'n gyfrifol am ddatblygu economaidd, y Cynghorydd Carwyn Jones, mae'r prosiect yn gyfle "unwaith mewn oes" am dwf economaidd i'r ardal.

Ond dyw'r sefyllfa ddim yn synnu Robat Idris o'r gr诺p ymgyrchu Pobl Atal Wylfa B (PAWB).

"Rydym wedi rhybuddio ers sawl blwyddyn nad ydy'r prosiect yn gwneud synnwyr yn ariannol," dywedodd.

"Mae'n bryd i ddechrau o'r dechrau. Mae'n bryd i wleidyddion lleol roi'r gorau ar y freuddwyd chwerthinllyd yma."