麻豆官网首页入口

Galw am is-ganghellor Cymraeg i Brifysgol Bangor

  • Cyhoeddwyd
Gethin Morgan a Sian GwenllianFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gethin Morgan a Sian Gwenllian yn galw ar yr is-ganghellor newydd i fedru'r Gymraeg

Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Bangor (UMCB) a'r Aelod Cynulliad lleol wedi arwyddo llythyr yn galw ar Brifysgol Bangor i benodi is-ganghellor newydd sy'n medru'r Gymraeg.

Daw hyn ar 么l i'r cyn is-ganghellor, John Hughes ymddeol yn gynnar fis Rhagfyr 2018.

Dywedodd Llywydd UMCB, Gethin Morgan a Sian Gwenllian AC eu bod am weld swydd ddisgrifiad i'r is-ganghellor ble mae'r "Gymraeg yn hanfodol".

Yn y llythyr dywedodd llywydd yr undeb ei fod yn "credu'n gryf y dylai medru'r Gymraeg fod yn hanfodol yn y swydd ddisgrifiad".

Ychwanegodd bod y "Gymraeg yn rhan ganolog o weledigaeth y brifysgol" a bod angen i'r is-ganghellor newydd "ddangos parch a dealltwriaeth at yr iaith".

'Rhan o'n traddodiad'

Wrth gefnogi UMCB, dywedodd Sian Gwenllian ei bod hithau hefyd yn credu bod cyflogi is-ganghellor sy'n medru'r Gymraeg yn hollbwysig er mwyn "cynnal yr ethos ieithyddol unigryw Gymraeg a Chymreig y Brifysgol".

Ychwanegodd yr AC Plaid Cymru dros Arfon fod yr alwad yn "dod ar yr un pryd 芒'r bygythiad o doriadau ac mae'n holl bwysig bod penderfyniadau doeth yn cael eu gwneud ynghylch a chan arweinyddiaeth y Brifysgol".

Ymhlith gofynion UMCB a Sian Gwenllian mae:

  • cynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg;

  • cynyddu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn fewnol yn y brifysgol;

  • bod ar flaen y gad o ran datblygu technolegau iaith;

  • bod yn ganolfan o ragoriaeth cyfrwng Cymraeg fel rhan allweddol o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Ar hyn o bryd y darpar is-ganghellor Graham Upton sydd wrth y llyw, wrth i'r brifysgol chwilio am is-ganghellor newydd.

Mae disgwyl i'r brifysgol benodi is-ganghellor newydd ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd nesaf.