麻豆官网首页入口

Disgwyl i ASau Cymru wrthod cytundeb Brexit Theresa May

  • Cyhoeddwyd
Theresa May
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer o ASau o'i phlaid ei hun yn gwrthwynebu cytundeb Brexit Theresa May

Mae disgwyl i fwyafrif o Aelodau Seneddol Cymru bleidleisio yn erbyn cytundeb Brexit Theresa May yn Nh欧'r Cyffredin yn ddiweddarach ddydd Mawrth.

Mae ASau'r blaid Lafur, Plaid Cymru a dau aelod Ceidwadol yn barod i wrthod cynnig y prif weinidog.

Y disgwyl ydy y bydd chwe Cheidwadwr o Gymru yn cefnogi'r prif weinidog ac yn pleidleisio o blaid ei chytundeb.

Fe gafodd y bleidlais ei gohirio gan y llywodraeth ym mis Rhagfyr, gan arwain at her i arweinyddiaeth Mrs May o'r blaid Geidwadol.

'Cymryd rheolaeth eto'

Bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth heb gytundeb os nad ydy'r Senedd yn deddfu i atal hynny.

Mae'r cytundeb wedi rhwygo'r blaid Geidwadol ac yn cael ei wrthwynebu gan blaid y DUP o Ogledd Iwerddon, sy'n cefnogi'r llywodraeth.

Yn 么l y Brecsitwyr, mae'r backstop - y cynllun i osgoi ffin galed ar ynys Iwerddon - ymysg y rhesymau dros wrthod y cynnig.

Yn ogystal ag Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns, mae disgwyl i'r Ceidwadwyr Stephen Crabb a Simon Hart gefnogi cytundeb Mrs May.

Dywedodd Mr Cairns fod y cytundeb yn "gwireddu canlyniad y refferendwm".

"Mae'n galluogi'r DU i gymryd rheolaeth unwaith eto o'i harian, ffiniau a chyfreithiau tra'n gwarchod swyddi a diogelwch a darparu sicrwydd wrth i ni adael yr UE," meddai.

"Byddai pleidleisio yn erbyn y cytundeb yn arwain at fwy o raniadau, mwy o ansicrwydd a methiant i gyflawni ar benderfyniad pobl Prydain."

Ffynhonnell y llun, T欧'r Cyffredin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae David Davies wedi dweud nad yw'n credu y bydd y cytundeb yn pasio

Y gred ydy y bydd Chris Davies, Glyn Davies a David TC Davies ymhlith yr ACau Ceidwadol Cymreig fydd hefyd yn cefnogi'r cytundeb.

Mae'r cyn-weinidog Brexit David Jones a Guto Bebb wedi dweud y byddan nhw'n pleidleisio yn erbyn y cytundeb.

Y disgwyl ydy y bydd hyd at 27 AS Llafur a phedwar aelod Plaid Cymru yn gwrthwynebu'r cynnig.

Mae Mr Bebb, AS Aberconwy, wedi rhybuddio y bydd "argyfwng cenedlaethol" os na fydd refferendwm arall.

'Tlotach'

Yn 么l AS Llafur Canol Caerdydd Jo Stevens, bydd cytundeb Mrs May yn "gwneud fy etholwyr a'r wlad yn dlotach".

Dywedodd David Jones, AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd, ei fod yn "gytundeb gwael" ac y byddai T欧'r Cyffredin yn "iawn i'w wrthod".

Does "neb yn gwybod" beth fydd yn digwydd os ydy'r cytundeb yn cael ei wrthod, yn 么l David TC Davies, AS Ceidwadol Mynwy.

Mae cwnsler cyffredinol Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles wedi apelio ar Aelodau Seneddol i bleidleisio yn erbyn y cytundeb.

Bydd y cytundeb yn "gwneud pobl a'r wlad yn dlotach", meddai Liz-Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

Dadansoddiad gohebydd seneddol 麻豆官网首页入口 Cymru, Elliw Gwawr:

Does 'na neb yn San Steffan yn credu y bydd Theresa May yn gallu ennill y bleidlais ar ei chytundeb Brexit. Yr unig gwestiwn yw, o faint fydd hi'n colli?

Bydd chwech allan o'r wyth aelod Ceidwadol o Gymru yn cefnogi'r Prif Weinidog, ond mae yna nifer sylweddol o'u cyd-aelodau yn bwriadu gwrthwynebu.

A gyda'r gwrthbleidiau yn pleidleisio yn erbyn hefyd, fe allai Theresa May wynebu colled hanesyddol ei faint.

Ond does neb chwaith yn gwybod beth fydd yn digwydd nesaf.

Fel arfer byddai Prif Weinidog sy'n colli pleidlais mor bwysig 芒 hyn yn ymddiswyddo'n syth, ond mae'r rheolau arferol wedi hen ddiflannu.

Dwi'n sicr, os yw hi'n colli yfory, y bydd yna ymgais gan Aelodau Seneddol i gipio'r awenau oddi ar y prif weinidog.

Ond os ydyn nhw'n llwyddo, beth fydden nhw eisiau? Ar hyn o bryd dydy o ddim yn glir bod yna fwyafrif o blaid unrhyw gynllun sy'n cael ei drafod.