Wylfa: 'Oedi yn fwy tebyg na diddymu'r cynllun'

Ffynhonnell y llun, Horizon Nuclear

Disgrifiad o'r llun, Bydd y gwaith ar Wylfa Newydd yn dechrau yn 2020 os bydd yn cynllyn yn parhau

Mae'r cwmni sydd y tu 么l i Wylfa Newydd yn fwy tebygol o oedi o ran y cynlluniau adeiladu yn hytrach na diddymu'r syniad yn gyfan gwbl, yn 么l un ymgynghorydd economaidd.

Mae disgwyl i Hitachi gyhoeddi'r wythnos hon a fyddan nhw'n cefnu ar y gwaith o adeiladu'r atomfa 拢20bn ar Ynys M么n.

Mae cwestiynau eisoes wedi codi yngl欧n 芒 sgil effeithiau'r penderfyniad ar economi gogledd Cymru.

Yn 么l Dr Edward Jones, sy'n dysgu Economeg ym Mhrifysgol Bangor, mae'n amau'n gryf os bydd Hitachi yn cerdded i ffwrdd ar 么l buddsoddi 拢2bn yn barod.

'Effaith ar hyd y gogledd'

Mae cwmni Horizon, sy'n gangen o gwmni Hitachi yn y DU wedi bod yn buddsoddi'r arian mewn prentisiaethau a chanolfannau hyfforddi yng ngogledd Cymru, gan gynnwys Gr诺p Coleg Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor.

Dywedodd Robat Idris o'r gr诺p gwrth-niwclear (PAWB) fod y cynlluniau ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru wedi eu selio ar y ffaith y byddai cynlluniau Wylfa yn mynd yn eu blaen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe gafodd gorsaf niwclear Wylfa ei digomisiynu yn 2015

Ychwanegodd Dr Jones fod y buddsoddiad posib o 拢20bn yn Wylfa 20 gwaith yn fwy na maint economi Ynys M么n, sydd 芒 gwerth economaidd o tua 拢1bn, a hefyd yn uwch na holl economi gogledd Cymru sydd werth cyfystyr 芒 拢13.6bn.

"Mae'n mynd i gael effaith ar hyd gogledd Cymru oherwydd ei faint. O bersbectif economaidd, roedd wastad am gael effaith," meddai.

Mae Dr Jones yn credu y byddai Hitachi yn fwy tebygol o "bwyso'r botwm oedi" yn hytrach na cherdded i ffwrdd o'r prosiect yn gyfan gwbl yn dilyn y buddsoddiad blaenorol.

Os yw hynny'n digwydd, meddai Dr Jones, y cwestiwn wedyn fydd pa mor hir fydd yr oedi hwnnw.

Cyrsiau'n parhau

Ychwanegodd: "Beth sydd rhaid i'r llywodraeth wneud yw gofyn yn sydyn iawn, beth mae Hitachi yn ei olygu o ran y gair oedi? Ydy o'n golygu chwe mis? Chwe blynedd?

"Beth sydd ei angen i ddechrau eto?"

Os bydd yr oedi yn un tymor byr, mae Dr Jones yn credu gallai'r gweithwyr dan hyfforddiant weithio ar brosiectau carbon isel sydd ar Ynys M么n ar hyn o bryd.

"Os mai chwe mis fydd y cyfnod oedi, mae'n weddol syml cadw'r sgiliau yn yr ardal," meddai.

Mae Dr Jones wedi dweud nad yw'n credu bydd yr ansicrwydd am Wylfa yn bygwth llwyddiant Bargen Dwf y gogledd.

Disgrifiad o'r llun, Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates eisiau gweld tynged hir dymor prosiect Wylfa Newydd yn cael ei wireddu

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: "Mae Wylfa Newydd yn brosiect arwyddocaol a allai sbarduno manteision economaidd sylweddol i Ynys M么n, Gogledd Cymru ac yn wir y DU gyfan.

Mae Wylfa Newydd yn brosiect o bwys gyda buddion economaidd arwyddocaol i Ynys M么n, Gogledd Cymru a'r DU.

"Mae'r holl s茂on dros y dyddiau diwethaf, o'r herwydd, yn destun cryn bryder i ni. Er na allwn ymateb i'r s茂on hyn rydym yn parhau i drafod a chydweithio'n agos 芒 Chyngor Sir Ynys M么n, Horizon Nuclear Power ac 芒 rhanddeiliaid eraill allweddol er mwyn monitro'r sefyllfa hon."

Ychwanegodd bod "angen i bob un ohonom ganolbwyntio ar sicrhau bod y prosiect hwn yn cael ei gyflawni ar gyfer Ynys M么n a bod gwaddol yn cael ei gyflawni a fydd yn parhau.

"Hoffwn sicrwydd gan Lywodraeth y DU eu bod yn cymryd pob cam posibl i sicrhau bod modd i'r prosiect hwn barhau a'n bod yn sicrhau buddsoddiad mor sylweddol ac arwyddocaol ar gyfer Ynys M么n."

Cyrsiau 'i barhau'

Mae Cyngor M么n wedi dweud nad yw'r ansicrwydd yn help ond eu bod wedi ymrwymo i'r prosiect "unwaith mewn cenhedlaeth".

Mae Gr诺p Llandrillo Menai wedi dweud fod 30 o'u 700 o fyfyrwyr peirianneg yn cael eu cyflogi gan Horizon ac y byddai'r cyrsiau'n parhau fel arfer, beth bynnag fydd y canlyniad.

Dywedodd Prifysgol Bangor fod y Sefydliad Dyfodol Niwclear ddim mewn unrhyw berygl gan ei fod wedi'i adeiladu drwy gyllid gan Llywodraeth Cymru ac o Gronfa Datblygu Rhanbarthau Ewropeaidd.