麻豆官网首页入口

Y teulu o F么n wnaeth 'frwydro' yn erbyn Wylfa Newydd

  • Cyhoeddwyd
Richard Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae teulu Richard Jones wedi bod yn ffermio ar d卯r Caerdegog, Ynys M么n

Mae teulu o Ynys M么n wnaeth wrthod gwerthu tir er mwyn datblygiad Wylfa Newydd wedi dweud ei fod yn "rhyddhad" fod y prosiect wedi'i atal.

Yn 2011 fe gafodd Richard Jones a'i wraig Gwenda gynnig gan gwmni ar ran Horizon i brynu hanner fferm Caerdegog ar gyrion Cemlyn.

Fe wrthodon nhw'r cynnig gan eu bod eisiau sicrhau "dyfodol i'w mab Owain ar y fferm".

Er y cyhoeddiad, dywedodd Mr Jones nad oedd yn "teimlo ei fod allan o'r coed ac yn saff" gan ei fod wedi profi "gormod o boen a phryder i feddwl fod o drosodd dros nos fel hyn".

'Bygythiad'

Yn 么l Gwenda Jones mae'r cyfnod wedi bod yn anodd i'r teulu, sydd bellach yn teimlo "rhyddhad".

"Mae hyn wedi cael cryn effaith, yn enwedig yn yr amser pan oedd y newyddion yn torri a'r bygythiad oedden ni oddi tano fel teulu.

"Yn wir 'da ni wedi dweud fwy nag unwaith cymaint 'da ni wedi heneiddio oherwydd y poendod.

"'Da ni wedi cael cymaint o gefnogaeth dros y byd, mae'r gefnogaeth wedi ein cynnal ni ac wedi bod yn help i ni ddod drwy'r frwydr hon," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth cyn-brif weinidog Japan, Naoto Kan, i'r fferm yn 2015 i son am ei wrthwynebiad i'r diwydiant a'u hannog i barhau i wrthwynebu

Wrth esbonio pam iddo beidio gwerthu ei dir, dywedodd Mr Jones bod ei deulu wedi bod yn ffermio yno ers "blynyddoedd".

"Mae'r teulu wedi bod yma ers canrifoedd, mae'n gwreiddiau ni mor ddwfn yma, dwi'm yn meddwl ei fod o'n achos fod ganddo ni afael ar y tir ond fod gan y tir afael arnom ni."

"Doedd o ddim yn benderfyniad anodd o gwbl, roedden ni gyd yn unfrydol i beidio gwerthu, nafo ni ddim hyd yn oed trafod pris," meddai.

'Addewid o waith'

Bellach mae'r teulu yn galw ar Gyngor M么n i sicrhau bod rhywbeth arall i bobl ifanc yr ynys.

Maen nhw'n beirniadu'r cyngor am roi eu "hwyau i gyd mewn un fasged", gan ganolbwyntio'n ormodol ar Wylfa.

Ychwanegodd Mrs Jones: "Dwi'n teimlo fel rhiant dros y bobl ifanc hynny sydd wedi cael addewid o waith yn lleol a dwi wir yn gobeithio.

"Dwi'n gobeithio bydd Cyngor Ynys M么n yn gafael ynddi rhag bod y bobl ifanc hynny yn cael eu siomi eto."

'Parhau i weithio'

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Arweinydd Cyngor M么n, Llinos Medi: "Mae'r cyngor yn parhau i weithio'n agos gyda Gweinidog Llywodraeth Cymru, Ken Skates, er mwyn pwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod yr oediad yma'n cael ei oresgyn fel ein bod yn llwyddo i greu'r swyddi o safon a'r cyfleoedd i fusnesau, sydd wir eu hangen, am flynyddoedd i ddod.

"Er hyn, fy mhryder pennaf yw'r effaith gaiff y penderfyniad yma ar ddynion a merched lleol sydd 芒'u gwaith dan fygythiad nawr oherwydd yr oediad, yn enwedig y rhai sydd wedi eu lleoli ar safle Wylfa Newydd yng ngogledd yr Ynys."