麻豆官网首页入口

'Ymdriniaeth Brexit yn drysu ASau ar brydiau'

  • Cyhoeddwyd
Stephen Crabb
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Stephen Crabb bod y sefyllfa'n benleth i aelodau'r cyhoedd

Mae'r ffordd y mae Brexit yn cael ei drin yn San Steffan yn drysu Aelodau Seneddol ar brydiau, yn 么l cyn Ysgrifennydd Cymru.

Dywedodd Stephen Crabb bod aelodau'r cyhoedd yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd gyda "syndod" yngl欧n 芒 pha mor "ddryslyd" yw'r sefyllfa.

Bydd ASau yn pleidleisio nos Fawrth ar welliannau posib i gytundeb Theresa May.

Dywedodd un Cymro sydd o blaid Brexit na allai unrhyw un o'r argymhellion sydd wedi eu cynnig i Lefarydd T欧'r Cyffredin, John Bercow eu hystyried, gael eu pasio.

Beth nesaf?

Crynodeb Gohebydd Gwleidyddol 麻豆官网首页入口 Cymru, Gareth Pennant:

Fe gollodd Theresa May y bleidlais ar ei chytundeb Brexit bythefnos yn 么l yn Nh欧'r Cyffredin.

Roedd 230 o Aelodau Seneddol yn ei gwrthwynebu - colled hanesyddol i brif weinidog.

Ers hynny mae'r wrthblaid ac aelodau mainc gefn wedi bod yn cynnig gwelliannau i'w chynllun.

Felly, bydd cyfres o bleidleisiau yn y Senedd ddydd Mawrth, ond ni fydd yr un o'r rheiny yn bleidlais derfynol ar gytundeb Mrs May.

Yn hytrach, bydd Aelodau Seneddol yn datgan barn ar y ffordd ymlaen ac yn cyflwyno'u gwelliannau eu hunain.

Mae hynny'n amrywio o ohirio Brexit - drwy ymestyn Erthygl 50 - i gael gwared 芒'r backstop, sef y polisi yswiriant i sicrhau na fydd ffin galed ar ynys Iwerddon.

Fe all penderfyniadau'r Senedd yna ddylanwadau'r prif weinidog i geisio cael mwy o gonsesiynau gan yr Undeb Ewropeaidd.

Wedi hynny, bydd yna gyfle arall i Aelodau Seneddol gymeradwyo neu wrthod cytundeb Brexit Mrs May.

Disgrifiad,

Golwg Janet Ebenezer a'r gohebydd Brexit, James Williams ar y sefyllfa ar raglen Newyddion 9 nos Lun

Dywedodd Mr Crabb wrth 麻豆官网首页入口 Cymru: "Mae nifer o bobl yn edrych ar y sefyllfa gyda syndod yngl欧n 芒 pha mor ddryslyd ydy hi ar hyn o bryd."

Ychwanegodd fod y bobl wnaeth bleidleisio i adael yr UE yn "edrych arnom yn San Steffan, yn chwarae'r gemau gweithredol yma ac yn gofyn i'w hunain beth ar wyneb y ddaear maen nhw'n ei wneud."

"Mae hyd yn oed yn anodd i ASau wneud synnwyr o'r cyfan ar brydiau, os 'dwi'n onest.

"Rydym i gyd yn gorfod darllen am weithredodd T欧'r Cyffredin er mwyn deall beth mae'r trefniadau yn ei golygu."

Yn 么l y Ceidwadwyr mae'r gwelliannau yn debyg iawn i "waltz weithredol - ychydig yn ddryslyd" ond mae hyn i gyd yn golygu tri dewis - y cytundeb sydd ar y bwrdd, dim cytundeb a dim Brexit.

"Mae popeth arall yn golygu dawnsio o amgylch y materion craidd," meddai.

'Rydym eisiau atebion'

Yn 么l AS Llafur Canol Caerdydd, Jo Stevens, dyw hi ddim yn adlewyrchu'n dda ar ASau os na allai'r prif weinidog argyhoeddi pobl sydd 芒 phryderon yngl欧n 芒 Brexit.

Byddai'r AS, sydd o blaid aros o fewn yr UE, yn hoffi gweld diddymu Erthygl 50 ond mae hi'n derbyn nad oes mwyafrif o blaid i hynny ddigwydd.

Ond, dywedodd y byddai'n cefnogi unrhyw welliannau fyddai'n rhwystro Brexit digytundeb.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l AS Llafur dros Canol Caerdydd, Jo Stevens, dyw hi ddim yn adlewyrchu'n dda ar ASau os na allai'r Prif Weinidog, Theresa May argyhoeddi pobl sydd 芒 phryderon yngl欧n 芒 Brexit.

"Rwyf wedi cael pobl yn dod ata' i yn dweud eu bod nhw'n gadael i staff fynd, neu eu bod nhw wedi stopio recriwtio. Maen nhw wedi cael pobl o'r UE yn gadael er mwyn ymuno 芒 chwmn茂au sydd o fewn yr EU 27," meddai.

"Rydym eisiau rhoi atebion ac argyhoeddi rhai pobl - ond mewn nifer o sefyllfaoedd mae hi'n amhosib gwneud hynny.

"Dwi ddim yn credu ei bod hi'n adlewyrchu'n dda iawn arnom ni yn San Steffan ar hyn o bryd , ac mae hi'n anodd gweld ffordd drwy hyn. Bydd yr wythnosau nesaf yma yn hanfodol bwysig."

Diddymu'r backstop

Dywedodd y cyn-weinidog Brexit a'r AS Ceidwadol dros Orllewin Clwyd, David Jones mae'r gwelliant Syr Graham Brady sydd fwyaf agos at ei safbwynt personol yngl欧n 芒 Brexit - a'i awydd i ddiddymu'r backstop o'r cytundeb ymadael.

Ond dywedodd nad yw'r gwelliant hwnnw - sy'n galw am "drefniadau amgen" yn lle'r backstop - yn ddigon clir iddo ei gefnogi.

"Mae'r backstop yn Iwerddon yn deal-breaker," meddai.

"Y ffaith yw mae'n eich cadw ynghlwm 芒'r cytundeb ymadael a'r trefniadau dan y cytundeb yna, a does dim modd o ddianc heb ganiat芒d yr UE."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai cefnogaeth i un o'r gwelliannau yn dylanwadu ar y trafodaethau nesaf rhwng Theresa May a'r UE

Ychwanegodd bod nifer o ASau Llafur - mewn ardaloedd a bleidleisiodd i ymadael - yn amharod i gefnogi gwelliant Yvette Cooper, sy'n galw am ddeddfu i ohirio gweithredu Erthygl 50 a gadael yr UE os nad yw'r Senedd yn cefnogi cytundeb Mrs May.

"Efallai na fydd unrhyw beth yn pasio drwy San Steffan," meddai Mr Jones. "Efallai na fydd unrhyw un o'r gwelliannau yn derbyn digon o gefnogaeth i fynd drwodd."

Mae pedwar AS Plaid Cymru yn cefnogi gwelliant Yvette Cooper.

Ond yn 么l Liz Saville Roberts does dim digon o amser i'r llywodraeth weithredu deddfwriaeth Brexit "hyd yn oed caiff penderfyniad ei wneud".