'Dim cyfarfodydd' gyda gweinidog am archif genedlaethol

Ffynhonnell y llun, Alamy

Disgrifiad o'r llun, Byddai'r Llyfrgell Genedlaethol yn gartref i'r archif genedlaethol newydd
  • Awdur, Huw Thomas
  • Swydd, Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau 麻豆官网首页入口 Cymru

Dydy Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru ddim wedi mynychu cyfarfodydd ffurfiol gyda'r Llyfrgell Genedlaethol ers iddo gael ei benodi yn 2017, yn 么l y prif weithredwr.

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn derbyn dros 拢9m mewn grant bob blwyddyn, ond mae'r berthynas wedi dod dan straen dros gynllun i greu archif ddarlledu newydd.

Mae Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, a ddaeth yn Ddirprwy Weinidog dros Ddiwylliant ym mis Tachwedd 2017, wedi gwrthod rhoi 拢1m tuag at sefydlu'r archif genedlaethol newydd nes i'r llyfrgell newid ei gynllun busnes.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymgysylltu 芒'r llyfrgell "ar bob cam o'r cynllun".

Byddai'r archif ddarlledu genedlaethol yn cael ei lleoli yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, a byddai'n gartref parhaol i archif deledu gyfan 麻豆官网首页入口 Cymru yn ogystal 芒 deunydd gan ddarlledwyr eraill.

Byddai'r ganolfan yn gartref i 160,000 o recordiadau o archif.

Mae Prif Weithredwr y Llyfrgell Genedlaethol, Linda Tomos, wedi ysgrifennu at Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad, sydd wedi bod yn craffu ar gynigion.

Wrth amddiffyn y cynllun busnes, ysgrifennodd Ms Tomos ei bod wedi "darparu'r holl wybodaeth y gofynnodd Llywodraeth Cymru amdano" ac wedi gofyn "yn gyson" os oedd angen mwy o wybodaeth.

Disgrifiad o'r llun, Mae Linda Tomos wedi "darparu'r holl wybodaeth y gofynnodd Llywodraeth Cymru amdano"

Ychwanegodd nad oedd yr Arglwydd Elis-Thomas wedi mynychu cyfarfodydd oedd fod i ddigwydd bob chwe mis gyda Llywydd y Llyfrgell, Rhodri Glyn Thomas, ers ymuno 芒'r cabinet.

"Nid yw'r cyfarfodydd gweinidogol chwe mis arferol gyda'r Llywydd wedi cael eu cynnal ers i'r Dirprwy Weinidog gael ei benodi," meddai.

Dywedodd Ms Tomos "na dderbyniwyd ateb" i e-bost yn gofyn am alwad ff么n brys rhwng llywydd y llyfrgell a'r Arglwydd Elis-Thomas yr haf diwethaf.

Cafodd yr e-bost ei anfon ar 19 Gorffennaf gan aelod o staff y llyfrgell i un o swyddogion yr Arglwydd Elis-Thomas.

Mae'n gofyn am alwad ff么n brys rhwng Rhodri Glyn Thomas a'r Arglwydd Elis-Thomas ar 么l derbyn llythyr gan y gweinidog y bore hwnnw.

'Ymrwymo'n glir'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymgysylltu 芒'r llyfrgell "ar bob cam o'r cynllun".

Ychwanegodd fod staff y llywodraeth wedi cwrdd 芒 chynrychiolwyr o'r Llyfrgell Genedlaethol a'r 麻豆官网首页入口 ar 18 Ionawr, a bod y ddau "wedi ymrwymo'n glir i gael ateb derbyniol i sicrhau darpariaeth a chynaliadwyedd yr Archif Ddarlledu Genedlaethol".

"Gan fod y trafodaethau hyn ar y gweill, gan gynnwys trafodaethau mewnol yn y Llyfrgell Genedlaethol a'r 麻豆官网首页入口, ni fyddai'n briodol inni fynd i fwy o fanylion."

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Arglwydd Elis-Thomas am weld y 麻豆官网首页入口 yn cynyddu ei gyfraniad i'r prosiect

Er nad yw'r gweinidog wedi cynnal cyfarfodydd ffurfiol 芒 staff y llyfrgell, mae'r Arglwydd Elis-Thomas wedi cwrdd 芒 rhai o'i hymddiriedolwyr - a'r llywydd - yn anffurfiol mewn digwyddiadau arbennig.

Mae'r llywodraeth wedi mynegi pryderon yn gyhoeddus am gynllun busnes yr archif ddarlledu genedlaethol yn ystod y misoedd diwethaf.

Wrth ymddangos o flaen Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad ym mis Ionawr, dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas y byddai'n galw ar y 麻豆官网首页入口 i gynyddu ei gyfraniad ariannol i'r prosiect.

Er bod Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cytuno mewn egwyddor i ariannu'r rhan fwyaf o gost yr archif, mae angen i'r llywodraeth ymrwymo 拢1m er mwyn rhyddhau gweddill yr arian.