麻豆官网首页入口

System gynllunio'n rhoi adeiladwyr Cymru 'dan anfantais'

  • Cyhoeddwyd
Ifan Glyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Ifan Glyn y dylai'r llywodraeth drin cwmn茂au adeiladu bychain yn wahanol i rai mwy o faint

Mae adeiladwyr tai yng Nghymru dan anfantais oherwydd costau uwch sicrhau caniat芒d cynllunio ac anawsterau cael cyllid.

Dyna fydd Pwyllgor Economi'r Cynulliad yn ei glywed yn ddiweddarach ddydd Mercher.

Yn 么l Cyfarwyddwr y Ffederasiwn Meistri Adeiladu mae'r broses gynllunio'n "rhy gymhleth, rhy ddrud a rhy drafferthus".

Dywedodd Ifan Glyn bod banciau wedi rhoi'r gorau i fenthyca arian i gwmn茂au adeiladu bychain yn dilyn dirwasgiad 2008.

Codi trothwy datblygiadau mawr

Ar raglen y Post Cyntaf fore Mercher, dywedodd Mr Glyn mai "dim ond nifer fach iawn o gwmn茂au mawr iawn sydd 'efo'r adnoddau i ddelio 'efo'r sefyllfa fel mae".

Yn 么l Mr Glyn, mae tri chwarter o'r tai sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru yn cael eu hadeiladu gan bum cwmni mawr.

Mynegodd bod angen i drothwy ar nifer y tai sy'n cyfrif fel datblygiad mawr i newid o 10 i 40, am fod y nifer o ddogfennau sydd eu hangen a gofynion cynllunio datblygiadau mawr yn llethu cwmn茂au adeiladu bach.

"Os da'ch chi'n adeiladu 10 o dai neu 1,000 o dai, yr un ydy'r gofynion," meddai.

Yn ogystal, dywedodd Mr Glyn bod ardaloedd gwledig yng Nghymru ar eu colled, wrth i gwmn茂au adeiladu mawr ganolbwyntio ar adeiladu mewn ardaloedd cyfoethocach.

"Mae 'na fwlch amlwg yn fan 'na, a mi fysa'n wych os y gall adeiladwyr bach lenwi'r bwlch yna, ond yn anffodus, achos bod y broses gynllunio'n un mor gymhleth a chostus, dy'n nhw'n methu gwneud hynny."

'Cwmn茂au bach dan anfantais'

Mewn tystiolaeth i'r pwyllgor, bydd Huw Francis - o gwmni adeiladu Hygrove Homes yn Abertawe - yn dweud bod sicrhau caniat芒d cynllunio yn fwy costus yn rhannol oherwydd yr angen am sawl math o adroddiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Bydd yn rhybuddio'r pwyllgor bod yna ormod o rwystrau yn atal cwmn茂au bach sy'n adeiladu tai rhag gwneud eu gwaith.

Cyhuddodd CNC hefyd o fod yn rhy araf i ymateb i'r dyblygu o'u gwaith nhw a gwaith awdurdodau cynllunio.

Ond mae CNC wedi dweud eu bod yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i sicrhau bod datblygiadau'n digwydd yn y lleoliadau mwyaf addas.

Dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Cynllunio CNC, Peter Jordan, bod yr awdurdod yn derbyn "tua 7,000 o geisiadau cynllunio bob blwyddyn a rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018 cafodd 97% eu dyfarnu o fewn terfynau statudol neu eraill".

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi newid eu polisi i sicrhau bod awdurdodau cynllunio yn gosod targedau i adeiladu tai ar safleoedd bychan.

Ychwanegodd eu bod hefyd wedi buddsoddi 拢40m i ddarparu plotiau o dir sydd eisoes 芒 chaniat芒d cynllunio i gwmn茂au bach sy'n adeiladu tai.