麻豆官网首页入口

Credyd Cynhwysol yn taro pobl 芒 phroblemau iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Gwefan credyd cynhwysol am ffon symudol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mind Cymru yn galw am fwy o gefnogaeth i rai sy'n hawlio'r budd-dal, yn cynnwys rhai sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd

Mae'r system Credyd Cynhwysol yn rhy gymhleth a ddim yn cynnig cefnogaeth i bobl sydd ddim yn ei deall, yn 么l cyfarwyddwr Mind Cymru.

Mae nifer o gwynion wedi bod yngl欧n 芒'r system newydd, ac yn 么l cyfarwyddwr Mind Cymru, Sara Moseley, mae angen datrys y sefyllfa "ar frys".

Dywedodd bod angen "ystyried anghenion iechyd meddwl mewn achosion perthnasol", a "chynnig rhagor o gefnogaeth wyneb-yn-wyneb".

Ychwanegodd Ms Moseley bod y taliadau'n rhy araf yn cyrraedd y rhai sy'n eu hawlio, a bod hynny'n achosi problemau iddynt.

"Os ydi pobl yn byw o'r llaw i'r genau p'run bynnag, mae gorfod aros er mwyn talu'r rhent, talu am fwyd, talu biliau - mae hynny'n gallu drysu eich bywyd yn llwyr," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Helena Woodford fod "dyledion yn broblem enfawr ar iechyd meddwl"

Roedd menyw, a oedd yn hawlio credyd cynhwysol ar 么l gadael ei swydd oherwydd problemau iechyd meddwl, heb incwm am dros ddau fis yn ogystal 芒 gorfod symud i ffwrdd o'i theulu a'i ffrindiau.

Roedd Helena Woodford adre'n s芒l o'i gwaith, ac yna bu'n rhaid iddi adael ei swydd fel rheolwraig bar pan chwalodd ei pherthynas gyda'i phartner. Achosodd hyn iddi ddioddef o or-bryder ar ben ei hiselder.

"Roeddwn i wedi arfer cael incwm, ac roeddwn yn disgwyl i'r broses hawlio credyd cynhwysol fod yn eithaf llyfn, yn eithaf cyflym ond nid felly'r oedd hi," meddai.

"Dwi'n meddwl ei bod wedi cymryd wyth i ddeg wythnos cyn i mi gael fy nhaliad cyntaf. Mi oeddwn i ar ei h么l hi'n ofnadwy efo fy rhent, a doedd y landlordiaid ddim yn derbyn credyd cynhwysol felly cefais rybudd i adael.

"Nid yn unig 'doedd gen i ddim arian, ond nawr roedd gen i dri mis i ffeindio rhywle arall i fyw, ac ychwanegodd hynny bwysau ofnadwy arnaf."

Problemau dyled

Roedd rhaid i Ms Woodford symud oddi wrth ei ffrindiau a'i theulu yng Nghas-Gwent i fflat yn Y Fenni - 23 milltir i ffwrdd - am na allai fforddio i fyw yno.

"Dwi'n siwr bod y system yn helpu rhai pobl, ond dydi hi ddim wedi fy helpu fi yn ormodol. Dwi isio bod allan yn gweithio, ond dwi'n mynd i ddyled am nad yw'r system yn rhoi cefnogaeth i mi.

"Mae dyledion yn broblem enfawr ar fy iechyd meddwl. Dwi'n teimlo wedi fy nghau i mewn, ac o dan bwysau. Mae banciau bwyd yn rhywbeth newydd, ond mae'n dweud ar eich hunan-barch ac rydych yn teimlo fel eich bod yn begian. Dwi ddim isio aros fel hyn, dwi isio bod yn annibynnol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu'n rhaid i Helena Woodford symud i'r Fenni, 23 milltir o'i chynefin

Roedd 76,072 o bobl yn hawlio credyd cynhwysol yn Rhagfyr 2018, ond nid oes ffigurau ar gael i ddweud faint yn union o bobl sy'n hawlio credyd cynhwysol sydd hefyd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl.

Dywedodd Mind Cymru fod miloedd o bobl mewn peryg o golli eu hincwm os nad yw'r problemau gyda symud o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i'r system gredyd cynhwysol yn cael eu datrys.

'Gweithio gyda'r mwyafrif'

Ond mae llywodraeth San Steffan yn mynnu bod y system yn gweithio'n iawn i'r mwyafrif llethol.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Waith a Phensiynau fod credyd cynhwysol yn "system dda".

"Mae'n gweithio gyda'r mwyafrif helaeth o bobl. Mae ein hanogwyr gwaith yn cael hyfforddiant i roi cefnogaeth i gwsmeriaid efo problemau iechyd meddwl a'u helpu nhw i gael gwaith."