Honiadau aflonyddu rhywiol: 20% wedi eu diswyddo

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae llai na 20% o honiadau o aflonyddu rhywiol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru wedi arwain at ddiswyddiadau, yn 么l ffigyrau swyddogol.

Ers 2016, o'r 81 o gyrff cyhoeddus wnaeth ymateb i gwestiynau gan 麻豆官网首页入口 Cymru, cafodd 84 o gwynion eu derbyn gydag 16 yn cael eu diswyddo.

Fe wnaeth dau awdurdod dalu cyfanswm o 拢16,000 mewn cytundebau 'gwrthod datgelu' - non disclosure agreements - ar 么l i honiadau gael eu gwneud.

Yn 么l un ddynes wnaeth dderbyn 拢40,000 mae'r cyfanswm go iawn sy'n cael ei dalu mewn achosion o'r fath yn llawer uwch.

Roedd Rachel, nid ei henw iawn, yn gweithio i brifysgol yng Nghymru.

Fe wnaeth 麻豆官网首页入口 Cymru ofyn am ymateb gan 89 o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys adrannau o Lywodraeth y DU sydd 芒 swyddfeydd yng Nghymru.

Mae'r atebion gan 81 o'r cyrff yn dangos:

  • Bod o leiaf tri chwarter o'r 84 cwyn am aflonyddu rhywiol wedi eu gwneud gan fenywod yn erbyn staff gwrywaidd;
  • Fe wnaeth yr honiadau arwain at 52 o achosion disgyblu, gyda 16 yn cael eu diswyddo;
  • Fe wnaeth cynghorau Merthyr Tudful a Sir Benfro ddweud iddynt dalu 拢8,000 yr un mewn cytundebau gwrthod datgelu yn dilyn honiadau o aflonyddu rhywiol;
  • Dywedodd 10% o'r awdurdodau eu bod yn gwrthwynebu'r arfer o ddefnyddio cytundebau gwrthod datgelu, tra bod 44% a pholisi o beidio eu defnyddio;
  • Fe wnaeth wyth corff cyhoeddus wrthod rhoi gwybodaeth (Prifysgol Caerdydd, Y 麻豆官网首页入口, Swyddfa Cymru, Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Y Weinyddiaeth Amddiffyn, Y Swyddfa Gartref, Yr Adran Gwaith a Phensiynau, a'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol);
  • Dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru nad ydyn nhw'n cadw gwybodaeth am honiadau o aflonyddu rhywiol;
  • Cafodd ei hadrodd fis Hydref fod Prifysgol Caerdydd wedi talu 拢3m mewn taliadau i ddod i gytundeb - ond heb restru'r union achosion.

"Dechreuodd y peth gyda fe'n dweud fy mod yn 'hogan fawr' ac yna sylwadau rhywiaethol," meddai Rachel.

"Roedd pobl yn or-gyfeillgar ac yn nawddoglyd oherwydd eich bod yn ferch.

"Roedd y cyfan yn fy mychanu oherwydd fy mod yn ferch."

Fe wnaeth Rachel dderbyn 拢40,000 gan ei chyn-gyflogwr er mwyn cadw'n dawel am yr honiadau o fwlian ac aflonyddu rhywiol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd o leiaf tri chwarter yr honiadau o aflonyddu rhywiol wedi eu gwneud gan fenywod

Ar 么l codi pryderon gydag uwch swyddogion am y modd yr oedd arian yn cael ei wario yn ei hadran, dywedodd Rachel fod ei safbwyntiau yn cael eu diystyru a cafodd ei labelu yn amhroffesiynol.

Dywedodd iddi gael ei galw i'r brif swyddfa, a'i bod hi'n meddwl fod hynny'n anarferol a'i bod felly wedi penderfynu recordio'r sgwrs gyda dau reolwr gwrywaidd.

Ychwanegodd ei bod wedi cael amser caled ac iddynt ddweud nad oedd eu hangen yno mwyach.

Yna mae hi'n honni iddynt wadu cynnwys y sgwrs. Dywedodd na wnaeth ei chyflogwr gymryd unrhyw gamau yn erbyn y dynion nes iddynt sylweddoli ei bod wedi recordio'r cyfan.

'Dim dewis'

Ond roedd y cwmni eisiau iddi adael, meddai.

"Do'n i ddim am adael, ond mae yna bwynt lle nad yw'r cyfan yn j么c mwyach ac mae'n rhaid i chi fynd," meddai Rachel.

"Yn y b么n fe wnaethon nhw ddweud: 'Dyma'r arian, byddwn ni'n delio gyda nhw, cymra'r arian a mynd'."

"Ro'n i'n fam sengl. Ro'n i ofn oherwydd byddwn heb swydd a neb i siarad 芒 nhw. Roedd hi'n anodd.

"Rydym yn clywed am aflonyddu rhywiol drwy'r amser.

"Mae'n rhaid chwarae'r g锚m, yn enwedig i fenyw sydd 芒 phlant - does yna ddim dewis oni bai am dderbyn y peth."

Cymorth a Chyngor

  • Acas (corff cymodi yn y gweithle): 0300 123 1100
  • Cyngor ar Bopeth: 03444 111 444
  • EASS (gwasanaeth cefnogaeth a chyngor cydraddoldeb): 0808 800 0082