麻豆官网首页入口

Bachgen wedi ei drywanu mewn ysgol uwchradd

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Eirias, Bae ColwynFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Eirias fore Llun

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud bod person yn ei arddegau yn y ddalfa ac yn helpu eu hymchwiliad wedi i ddisgybl gael ei drywanu yn ysgol uwchradd yn Sir Conwy.

Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Uwchradd Eirias ym Mae Colwyn am 10:16 fore Llun wedi adroddiadau o ymosodiad.

Mae bachgen yn ei arddegau wedi cael ei ryddhau o'r ysbyty ar 么l cael triniaeth at anafiadau a gafodd eu disgrifio fel rhai nad yw'n ddigon difrifol i beryglu bywyd.

Dywedodd y Prif Arolygydd Sion Williams ar ran y llu: "Mae digwyddiadau o'r natur yma, yn ffodus, yn brin eithriadol yng ngogledd Cymru ac rydym yn gweithio gyda'r ysgol ac asiantaethau eraill fel rhan o'r ymchwiliad, sy'n parhau."

Yr achos 'wedi ei ddatrys'

Mewn neges i rieni wedi'r digwyddiad, fe ddywedodd pennaeth yr ysgol, Sarah Sutton: "Fe alla'i gadarnhau bod digwyddiad prin wedi bod yn yr ysgol ben bore 'ma.

"Rydym yn gweithio gyda'r heddlu fel rhan o'u hymchwiliadau, sy'n parhau.

"Rydym yn aros am ragor o wybodaeth gan yr heddlu ac yn gallu rhoi sicrwydd i chi bod yr ysgolion yn trin y digwyddiad yma yn ddifrifol iawn.

"Mae croeso i rieni gysylltu 芒'r ysgol am ragor o dawelwch meddwl."

Ddydd Mawrth fe ddywedodd Ms Sutton wrth 麻豆官网首页入口 Cymru fod yr achos "wedi ei ddatrys" o safbwynt yr ysgol, a bod "cosbau wedi eu gosod".

Dywedodd yr heddlu ddydd Llun eu bod yn trefnu "presenoldeb mwy amlwg" yn ardal yr ysgol "i roi tawelwch meddwl" i'r gymuned leol.

Roedd yna ap锚l hefyd gan y Prif Arolygydd Owain Llewellyn i bobl "beidio 芒 damcaniaethu ar y cyfryngau cymdeithasol".