麻豆官网首页入口

Ansicrwydd 'ddim wedi helpu' Comisiynydd y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Meri Huws

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud bod ansicrwydd am ddyfodol ei swydd wedi effeithio ar ei gwaith am gyfnod o ddwy flynedd.

Roedd amheuaeth sylweddol am ddyfodol r么l y comisiynydd ar un adeg ar 么l i Lywodraeth Cymru ddweud eu bod yn ffafrio creu comisiwn i hybu'r iaith a rhoi'r cyfrifoldeb am safonau iaith i weinidogion.

Ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio bwrw 'mlaen gyda Deddf Iaith newydd - mesur a fyddai wedi cael gwared ar swydd Comisiynydd y Gymraeg.

Yn siarad ar raglen Y Byd yn ei Le ar S4C dywedodd Meri Huws: "Yn sicr dyw e ddim wedi helpu o ran fy ngwaith dros y flwyddyn neu ddwy ddiwetha' oherwydd bod yna farc cwestiwn wedi bod yn y gornel yna a dyw'r marc cwestiwn yna ddim wedi mynd bant.

"Efallai bod nhw [y llywodraeth] yn teimlo bod [y swydd] yn rhy bwerus, a dwi'n credu bod hwn yn ymateb sy'n dod o wledydd eraill lle mae yna gomisiynydd; bod hon neu hwn yn mynegi barn yn rhy uchel ei llais."

Bydd cyfnod Meri Huws yn y r么l yn dod i ben ym mis Mawrth ar 么l saith mlynedd yn y swydd, a bydd yn cael ei holynu gan Aled Roberts.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i ymateb i sylwadau Ms Huws.

Cafodd Y Byd yn ei Le ei darlledu ar S4C am 21:30 nos Fawrth.