Carwyn Jones: Paratoadau Brexit Ford yn 'bryderus iawn'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae adroddiadau bod Ford yn ehangu cynlluniau i symud eu gwaith cynhyrchu allan o'r DU yn "bryderus iawn", yn 么l Aelod Cynulliad Pen-y-bont ar Ogwr, Carwyn Jones.

Yn 么l adroddiad ym mhapur newydd The Times, mae'r cwmni ceir wedi dweud wrth Brif Weinidog y DU, Theresa May, ei fod yn paratoi safleoedd dramor oherwydd pryderon ynghylch Brexit.

Nid yw'r cwmni wedi ymateb yn uniongyrchol i'r adroddiad, ond ddydd Mercher dywedodd y byddai Brexit heb gytundeb yn "drychinebus" i ddiwydiant ceir y DU.

Fis diwethaf, dywedodd undeb Unite bod Ford yn bwriadu torri bron i 1,000 o swyddi yn ei ffatri ym Mhen-y-bont erbyn 2021 oherwydd amodau heriol yn y farchnad.

'Catastroffig'

Dywedodd llefarydd ar ran Ford: "Rydyn ni wedi annog Llywodraeth y DU a'r Senedd i gydweithio er mwyn osgoi gadael yr UE gyda Brexit caled, heb gytundeb ar 29 Mawrth.

"Byddai'r fath sefyllfa yn drychinebus i ddiwydiant ceir y DU ac i waith cynhyrchu Ford yn y DU."

Ychwanegodd y byddai'r cwmni'n cymryd "unrhyw gamau angenrheidiol" er mwyn parhau i fod yn gystadleuol.

Dywedodd cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, bod y newyddion yn "bryderus iawn i'r rhai sy'n gweithio yn y ffatri a'u teuluoedd".

"Dyma sy'n digwydd pan nad oes arweiniad ar lefel y DU.

"Does gyda ni ddim syniad sut fydd Brexit yn edrych."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd bod cwmn茂au fel Ford yn gorfod paratoi oherwydd nad ydyn nhw'n gallu aros mwyach.

"Mae'n rhaid i ni wneud yn si诺r ein bod yn cael cytundeb a sicrwydd cyn gynted 芒 phosib."

Mae swyddog cenedlaethol Unite, Des Quinn, wedi dweud bod cyhoeddiad Ford yn rhybudd o'r "goblygiadau catastroffig" o Brexit heb gytundeb.

"Mae angen i weinidogion ac ASau roi'r gorau i gamblo gyda dyfodol gweithwyr Prydain a'u teuluoedd," meddai.

Dywedodd Llywodraeth y DU mai'r ffordd orau o roi sicrwydd i ddiwydiannau oedd i Aelodau Seneddol gefnogi cytundeb Brexit y prif weinidog.