麻豆官网首页入口

M么n am gynyddu Treth Cyngor 9.5%

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Cyngor M么n

Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Sir Ynys M么n yn argymell cynnydd o 9.5% yn y dreth cyngor er mwyn ceisio "gwarchod cyllidebau'r ysgolion a gwasanaethau hanfodol eraill".

Dywedodd llefarydd fod y cyngor yn "wynebu ei her ariannol fwyaf hyd yma ar 么l toriad arall yn y cyllid a gaiff gan Lywodraeth Cymru".

Ychwanegodd fod y cyngor yn wynebu bwlch cyllido o 拢7m.

Dywedodd yr aelod portffolio cyllid, y Cynghorydd Robin Williams: "Mae Cyngor M么n wedi cael ei orfodi i wneud toriadau gwerth mwy na 拢24m ers 2013/14.

"Mae'r setliad a gafwyd gan Lywodraeth Cymru eleni wedi arwain at doriad yn y cyllid a gawn, er bod costau'n parhau i godi'n sylweddol.

"Mae gofyn cynyddol wedi arwain at orwariant mewn rhai gwasanaethau ac mae hynny yn ei dro wedi erydu ein cronfeydd ariannol wrth gefn sy'n golygu na fedrwn eu defnyddio i gydbwyso cyllideb eleni."

Ychwanegodd, "Nid oes dewis gennym felly ond codi'r Dreth Cyngor i gwrdd 芒'r bwlch cyllido ac i warchod gwasanaethau hanfodol y Cyngor."

Bydd argymhellion y pwyllgor gwaith yn cael eu cyflwyno i'r cyngor llawn ar 27 Chwefror.