麻豆官网首页入口

Pryder am gynnydd ail gartrefi yng ngogledd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Conwy
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Conwy yw'r sir ddiweddaraf i godi rhagor o dreth ar berchnogion ail gartrefi

O fis Ebrill ymlaen bydd dau awdurdod lleol arall yn y gogledd - Conwy a Dinbych - yn codi mwy o dreth cyngor ar berchnogion ail gartrefi, gan ddod 芒'r cyfanswm i wyth drwy Gymru.

Gwelwyd cynnydd o 70% yn nifer yr ail gartrefi yng Nghonwy rhwng 2013/14 a 2017/18.

Nawr bydd biliau perchnogion ail gartrefi 25% yn fwy na gweddill y trethdalwyr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai ei bolisi yw sicrhau cydbwysedd rhwng buddiannau cymunedau lleol, perchnogion cartrefi a'r diwydiant twristiaeth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Aaron Wynne ei bod yn gywir gofyn i berchnogion ail gartref gyfrannu mwy

Mae Aaron Wynne, cynghorydd sir 22 oed o Lanrwst, yn cefnogi'r penderfyniad i godi rhagor o dreth ar berchnogion ail gartrefi.

"Os oes gan rywun ddigon o bres i brynu ail gartref a tydi pobl ifanc fel fi methu fforddio t欧 cyntaf dwi'n meddwl bod modd gofyn iddyn nhw gyfrannu tipyn mwy i'r pwrs cyhoeddus," meddai wrth raglen Manylu ar 麻豆官网首页入口 Radio Cymru.

Ond mae 'na bryder bod nifer cynyddol o berchnogion ail gartrefi yn osgoi talu treth y cyngor drwy newid statws eu heiddo i lety gwyliau - sef busnes.

Gan fod gwerth trethiannol nifer o'r busnesau yn llai na 拢6,000, maen nhw'n cael eu heithrio rhag talu'r dreth honno hefyd.

'Sgandal'

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Sian Gwenllian yn disgrifio'r sefyllfa fel "sgandal" ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganfod datrysiad ar frys.

"Di'r hyn sy'n digwydd ddim yn anghyfreithlon ond mi faswn i'n dadlau ei fod yn anghywir ac yn anfoesol," meddai AC Arfon.

"Mae 'na rywbeth yn anghywir lle mae gennych chi 5,000 o ail gartrefi yng Ngwynedd, tra bod gennym ni hefyd 2,000 yn methu 芒 chael t欧 cymdeithasol."

Disgrifiad,

Dywedodd Sian Gwenllian bod y system yn cael ei "chamddefnyddio'n ddybryd"

Yn 么l Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru roedd cynnydd o 30% ar draws Cymru rhwng 2016 a 2018 yn nifer yr eiddo gafodd eu cofrestru fel busnesau gwyliau.

Mae'n cydnabod y gallai poblogrwydd gwefannau fel Airbnb fod yn rhannol gyfrifol am yr ystadegau ond mae hefyd o'r farn fod y premiwm ail gartrefi yn ffactor.

"Mae'r siroedd welodd y cynnydd mwyaf yn nifer y busnesau mewn ardaloedd sydd wedi cyflwyno trethi uwch ar ail dai, fel Gwynedd, M么n, Sir Benfro a Cheredigion," meddai.

'Meini prawf clir'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod bod ail gartrefi yn gallu effeithio ar gymunedau lleol ac mai eu polisi yw sicrhau cydbwysedd rhwng buddiannau cymunedau lleol, perchnogion cartrefi a'r diwydiant twristiaeth.

Maen nhw'n pwysleisio bod meini prawf clir ar gyfer trosglwyddo eiddo i fod yn llety gwyliau a bod angen tystiolaeth i gefnogi'r cais.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Seimon Brooks yn awgrymu newid y system fel bod angen caniat芒d cynllunio cyn troi t欧 annedd yn d欧 haf

Mae cynghorydd tref Borth-y-gest ym Mhorthmadog, Seimon Brooks yn rhagweld cynnydd yn nifer yr ail gartrefi yn sgil Brexit.

Awgrymodd y bydd pobl yn penderfynu bod buddsoddi mewn eiddo yng Nghymru yn rhoi mwy o sicrwydd iddyn nhw na phrynu dramor.

"'Da ni eisoes wedi gweld cynnydd yn nifer y tai haf - fel canran o'r holl dai sy'n cael eu gwerthu - yma yng Ngwynedd, felly mae'n rhaid i ni ymateb," meddai.

"Mi allwn ni wneud hynny naill ai drwy godi trethi a'u gwneud nhw mor uchel fel nad ydy pobl eisiau gwneud hyn, neu mewn pentrefi fel Borth-y-gest bod angen caniat芒d cynllunio cyn troi t欧 annedd yn d欧 haf."