Cynnal isetholiad Gorllewin Casnewydd ym mis Ebrill

Ffynhonnell y llun, Leon Neal

Disgrifiad o'r llun, Bu Paul Flynn yn cynrychioli'r Blaid Lafur yng Ngorllewin Casnewydd am dros 30 mlynedd

Bydd isetholiad ar gyfer etholaeth Gorllewin Casnewydd yn cael ei gynnal ym mis Ebrill, a hynny yn dilyn marwolaeth Paul Flynn yn 84 oed.

Cafodd Mr Flynn ei ethol am y tro cyntaf yn 1987 ac fe lwyddodd i amddiffyn ei sedd yng Ngorllewin Casnewydd am saith etholiad yn olynol tra'n cynrychioli'r Blaid Lafur.

Bydd yr isetholiad yn cael ei gynnal ar 4 Ebrill.