Ap锚l heddlu am help i fonitro 'tensiynau' Brexit posib

Mae un o heddluoedd Cymru wedi ysgrifennu at wleidyddion lleol yn gofyn am eu help i gadw golwg am unrhyw arwyddion o "densiynau" o fewn eu cymunedau mewn cysylltiad 芒 Brexit.

Cafodd y llythyr ei ddanfon at aelodau o Gyngor Sir Penfro gan un o uwch swyddogion Heddlu Dyfed-Powys.

Ond mae llefarydd ar ran y llu yn pwysleisio "nad oes unrhyw wybodaeth i awgrymu y bydd yna gynnydd mewn trosedd ac anhrefn" wedi Brexit di-gytundeb.

Mae'r sir yn un strategeol bwysig yn fasnachol yn sgil porthladd Aberdaugleddau a therfynfeydd fferi Doc Penfro ac Abergwaun.

Dywed y llythyr: "Bydd adnabod unrhyw densiynau yn fuan yn gymorth mawr i ni sicrhau ein bod yn ymateb yn y ffordd fwyaf effeithiol i warchod, cefnogi a rhoi sicrwydd i bawb yn ein cymunedau lleol."

Mewn datganiad i 麻豆官网首页入口 Cymru, dywedodd llefarydd ar ran y llu: "Rydym yn awyddus i danlinellu ein neges: tra ein bod yn paratoi ar gyfer Brexit di-gytundeb, ynghyd 芒 senarios eraill, nid oes ganddom ni wybodaeth sy'n awgrymu y bydd yna gynnydd mewn trosedd ac anhrefn wedi'r digwyddiad.

"Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i gydweithio'n agos gydag asiantaethau a phartneriaid i gynllunio a pharatoi ar gyfer effaith Brexit di-gytundeb ar ein gwaith.

"Byddwn ni'n parhau i fonitro a deall unrhyw densiynau cymunedol allai fod yn gysylltiedig 芒 Brexit."