Conwy: Cynnydd o 9.6% i dreth cyngor

Mae Cyngor Sir Conwy wedi cyhoeddi cynnydd o 9.6% i'r dreth cyngor, a thoriadau i'w holl wasanaethau.

Fe fydd y newid yn gweld perchnogion mewn tai Band D yn talu 拢112.16 ychwanegol y flwyddyn mewn treth cyngor, neu 拢2.16 yr wythnos.

Dyma ymgais gan y cyngor i ddatrys diffyg ariannol o 拢15.7m.

Dywedodd y cynghorydd annibynnol Bob Squire bod y "driniaeth bresennol o'r gyllideb yn anghynaladwy".

Disgrifiad o'r llun, Pencadlys Cyngor Conwy ym Mae Colwyn

Wrth i'r cyngor gynyddu'r dreth cyngor, fe fydd ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol Conwy yn gweld toriadau o 4%.

Un o'r gwrthwynebwyr oedd y cynghorydd annibynnol, Mr Squire, gan ddweud bod pwysau mawr ar ysgolion y sir oherwydd toriadau i'r gyllideb.

"Mae'r driniaeth bresennol o'r gyllideb yn anghynaladwy ac mae angen i ni ddadansoddi cyfundrefnau yn feirniadol, yn enwedig ysgolion", meddai.

Wrth amddiffyn penderfyniad y cyngor, dywedodd Sam Rowland, aelod y cabinet dros gyllid bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud toriadau o 0.3% i'w cyllideb arfaethedig yn 2019/20.

Ond dywedodd Sue Lloyd-Williams o Blaid Cymru, bod y penderfyniad yn "cosbi ein plant a'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas".

Er gwaetha'r cynnydd, mae "cyngor treth Conwy yn parhau i fod yn is na chyngor Gwynedd a Sir Ddinbych," yn 么l Mr Rowlands.