Pryder Bryste am 'fantais annheg' i Faes Awyr Caerdydd

Ffynhonnell y llun, Maes Awyr Caerdydd

Mae prif weithredwr Maes Awyr Bryste wedi dweud y byddai Caerdydd yn cael mantais annheg pe bai Llywodraeth Cymru yn cael yr hawl i ostwng neu ddileu treth teithwyr awyr.

Dywed Dave Lees y byddai dileu'r dreth yng Nghymru yn golygu y byddai miliwn o deithwyr yn dewis hedfan o faes awyr Caerdydd yn hytrach na Bryste.

Ar hyn o bryd mae teithwyr yn talu treth o 拢13 am siwrnai fer a 拢70 am siwrnai hir.

Ers blynyddoedd, mae Llywodraeth Cymru wedi galw am y p诺er i newid hynny, fel sy'n digwydd yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ond mae Llywodraeth San Steffan wedi gwrthod gan fynnu y byddai newid o'r fath yn rhoi meysydd awyr Lloegr dan anfantais.

Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar Faes Awyr Caerdydd, ac yn 2017 dywedodd y cyn brif weinidog, Carwyn Jones ei fod am gael rheolaeth dros y dreth fel ei fod yn gallu ei diddymu.

Disgrifiad o'r llun, Dywed adroddiad i Lywodraeth Cymru y byddai dileu'r dreth yn gweld cynnydd o hyd at 62,000 o deithwyr ym maes awyr Caerdydd

Mae aelodau Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan yn ymchwilio i'r mater, ac wrth roi tystiolaeth ddydd Iau dywedodd Mr Lee y gallai Bryste golli miliwn o deithwyr y flwyddyn.

Ond gwadu hynny wnaeth pennaeth maes awyr Caerdydd, Debra Barber gan fynnu fod digon o deithwyr i gadw'r ddau faes awyr yn brysur.

Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn gr诺p trawsbleidiol sy'n cynnwys 11 AS Cymreig ac mae'n cael ei gadeirio gan y Ceidwadwr, David Davies.