麻豆官网首页入口

Pryderon am ddyfodol cwmni adeiladu Dawnus o Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Mae gwaith adeiladu gan Dawnus wedi dod i stop ynghanol Abertawe
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma'r olygfa ynghanol Abertawe ddydd Mercher

Mae gwaith ailddatblygu yng nghanol Abertawe wedi dod i stop yn sgil pryderon am ddyfodol cwmni adeiladu Dawnus.

Dywedodd Cyngor Sir Powys wrth Cymru Fyw y gallai'r trafferthion ariannol sy'n wynebu Dawnus arwain at oedi yn adeiladu tair ysgol newydd yn y sir.

Ddydd Mawrth, fe ddaeth gwaith ffordd ym Manceinion i stop hefyd yn dilyn honiadau gan weithwyr nad oedden nhw wedi cael eu talu gan Dawnus, sydd 芒'i bencadlys wedi'i leoli yn Llansamlet.

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru wedi methu 芒 chael gafael ar y cwmni - sy'n cyflogi cannoedd o weithwyr - am sylw.

Yn 么l gweithwyr ar y safle yn Abertawe, mae cyfarfod wedi'i alw bore dydd Iau.

Ffynhonnell y llun, Sinead Haycox
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd peiriannau eu gadael ar y ffordd ym Manceinion, gan effeithio ar draffig y bore

Dywedodd un is-gontractwr sy'n gweithio ar y safle yn Abertawe: "Cyrhaeddom ni'r gwaith bore 'ma a wnaeth y fforman ein gyrru ni adref am weddill y dydd.

"Doedd e ddim yn syndod i fod yn onest, mae hyn wedi bod yn dod ers misoedd.

"Daeth cwmn茂au sy'n rhentu peiriannau i gasglu eu heiddo gan eu bod nhw'n poeni am gael eu talu.

"Cafodd y goleuadau ar gyfer safle Abertawe eu cymryd bore 'ma, 'dwi 'rioed wedi gweld y fath beth."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dawnus oedd wedi ennill y cytundeb i adeiladu ysgol newydd ym Machynlleth

Fe ddewisodd Cyngor Sir Powys cwmni Dawnus fel prif gontractwr i godi adeilad newydd ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth.

Enillodd Dawnus hefyd y cytundebau i godi dwy ysgol gynradd newydd - un cyfrwng Cymraeg ac un Saesneg - yn Y Trallwng.

Mae'r gwaith adeiladu wedi hen ddechrau ar yr ysgol Saesneg newydd 360-disgybl gyda'r dyddiad cwblhau wedi'i bennu ar gyfer mis Medi eleni.

Ond mae'r gwaith adeiladu eto i ddechrau ar y ddau brosiect arall.

Dywedodd Myfanwy Alexander, aelod cabinet dros addysg a'r iaith Gymraeg, fod y cyngor yn "monitro'r sefyllfa'n ofalus".

"Dyw'r cyngor heb dderbyn unrhyw gyswllt ffurfiol gan y cwmni," meddai.

"Mae Dawnus yn bartner allweddol ar nifer o brosiectau moderneiddio ein hysgolion ac mi fyddwn ni'n gweithio i liniaru unrhyw faterion posib all godi."