麻豆官网首页入口

ASau yn pleidleisio o blaid oedi'r broses o adael yr UE

  • Cyhoeddwyd
T欧'r CyffredinFfynhonnell y llun, HoC

Mae aelodau seneddol yn Nh欧'r Cyffredin wedi pleidleisio o blaid gofyn am ganiat芒d yr Undeb Ewropeaidd i oedi ar y broses o adael.

Fe bleidleisiodd 412 o blaid a 202 yn erbyn - mwyafrif o 210.

Bydd y llywodraeth nawr yn ceisio ymestyn trafodaethau Brexit nes 30 Mehefin eleni gyn belled 芒 bod ASau'n cymeradwyo cytundeb Theresa May cyn 20 Mawrth.

Dywedodd y prif weinidog y gallai'r broses o adael gael ei oedi am lawer yn hirach os nad yw ei chytundeb yn cael ei gymeradwyo erbyn hynny.

Ddydd Mercher, fe bleidleisiodd aelodau i wrthod gadael yr UE heb gytundeb, ddiwrnod wedi iddyn nhw wrthod cytundeb diweddaraf Mrs May o 391 i 242.

Ddydd Iau - cyn y bleidlais ar p'run ai i oedi'r broses o adael - roedd ASau meinciau cefn a'r gwrthbleidiau wedi cyflwyno gwelliannau i'r brif bleidlais.

  • Gwelliant H - Gofyn am ymestyn Erthygl 50 er mwyn cynnal refferendwm arall;

  • Gwelliant I - Galluogi i ASau reoli busnes y senedd ddydd Mercher nesaf. Fe fyddan nhw'n defnyddio'r amser i drafod, a gallai arwain at bleidleisio ar nifer o opsiynau gwahanol am Brexit;

  • Gwelliant E - Gwrthod cytundeb y prif weinidog a'r syniad o adael heb gytundeb. Galw hefyd am drefnu amser yn y senedd i D欧'r Cyffredin weithio tuag at gael mwyafrif o blaid strategaeth wahanol;

Cafodd y cynigion eu gwrthod gan aelodau.

Fe benderfynodd yr AS Llafur dros Y Rhondda, Chris Bryant, dynnu ei welliant yntau yn 么l.

Roedd wedi galw ar ASau i wrthod pleidleisio eto at gytundeb ymadael Theresa May am y trydydd tro.