麻豆官网首页入口

Ffrae dros ddiogelwch lag诺n prydferth ond 'peryglus'

  • Cyhoeddwyd
Pwll Glas Broughton BayFfynhonnell y llun, Alan Richards/Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed yr RNLI eu bod yn cael eu galw yn gyson i'r Pwll Glas

Mae ap锚l gan fenyw o Abertawe i wella diogelwch mewn man o harddwch naturiol lle wnaeth hi achub bachgen naw oed rhag boddi wedi cael ei wrthod gan berchennog y safle.

Mae'r RNLI wedi dweud bod d诺r dwfn a cherrynt cryf Pwll Glas yn Broughton Bay ar Benrhyn G诺yr yn "beryglus".

Un o'r rhai sy'n galw am fesurau diogelwch ychwanegol ar y tir, sydd ym mherchnogaeth cwmni preifat, yw Ceri Saunders, a neidiodd i'r m么r ynghyd 芒'i mab, Aaron i achub bywyd y bachgen.

Ond "synnwyr cyffredin" sydd angen, ac nid arwyddion, yn 么l Robert Elson o gwmni Broughton Farm Caravan Park.

'Pryderth ond tywyllodrus'

Mae'r lag诺n naturiol ger traeth Broughton Bay ymhlith safleoedd harddaf Penrhyn G诺yr ac yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, ond mae'r clogwyni'n serth a chribog a'r m么r yn eithriadol o gyfnewidiol.

Cafodd yr RNLI eu galw i'r ardal bump gwaith yn ystod 2018, gan gynnwys y digwyddiad ym mis Awst yr oedd Mrs Saunders a'i mab yn rhan ohono.

Bu'n rhaid iddi gael triniaeth at yr oerfel ar 么l achub y bachgen, oedd wedi ei sgubo i'r m么r o'r pwll, ac fe gafodd ei henwebu ar gyfer Gwobr Dewi Sant.

"Os daw unrhyw beth mas o hyn, y gobaith yw na fydd neb arall yn peryglu eu bywydau," meddai. "Mae arwyddion ac ymwybyddiaeth yn hanfodol bwysig.

"Mae'n fan prydferth iawn ond mae'n dywyllodrus. Yn amlwg, dyw e ddim yn saff ac mae wir angen arwyddion."

Ffynhonnell y llun, Welsh Government
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Aaron a Ceri Saunders eu henwebu am wobr am eu dewrder wrth achub bywyd y bachgen

Ond mae'r cwestiwn ynghylch pwy ddylai dalu am arwyddion yn faen tramgwydd.

Mae Cyngor Abertawe'n dweud na allen nhw weithredu am fod y tir sy'n arwain at y clogwyn yn nwylo preifat, ac mae perchnogion y maes carafanau'n credu byddai gosod arwyddion yn ddibwrpas ac yn amharu ar harddwch naturiol y safle.

Dywedodd Mr Elson: "Y gwir yw, mae'r m么r yn beryglus, ac yn anffodus dyw rhai pobl ddim yn gallu, neu'n anfodlon, deall canlyniad yr hyn maen nhw'n ei wneud.

"Diolch i'r drefn roedd [Mrs Saunders] yn nofiwr cryf, yn 'nabod y m么r ac yn fodlon achub y bachgen yna, gan atal marwolaeth. Ond petaswn i'n gosod arwydd, a fyddai unrhyw un wirioneddol yn ei ddarllen?

"Fyddwn i ond yn gwario arian ar amharu ar le prydferth yn ddiangen.

"Os oes rhywun eisiau talu, popeth yn iawn. Ond os ydych chi'n gosod arwydd yn fan hyn, bydde'n rhaid gwneud yr un peth hyd holl ffordd Llwybr Arfordirol Cymru."

Ffynhonnell y llun, Graham Taylor/Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae miliynau o bobl yn ymweld 芒 Phenrhyn G诺yr bob blwyddyn

'Pobl yn anwybyddu cyngor'

Dywed y cynghorydd lleol Richard Lewis ei fod wedi codi'r mater gydag adran dwristiaeth Cyngor Abertawe, ond ei fod yn cytuno bod angen i bobl gymryd "mwy o gyfrifoldeb" cyn mynd i'r m么r.

Mae'n sefyllfa "anodd", meddai, gan fod Penrhyn G诺yr yn denu "miliynau o ymwelwyr a phunnoedd bob blwyddyn" gyda'r "angen i ni sicrhau bod y bobol hynny yn ddiogel, ond hyd yn oed ar draethau lle rydym wedi trefnu achubwyr bywyd, mae pobl yn dal i anwybyddu cyngor".

Mae'r RNLI yn annog pobl i edrych ar ragolygon y tywydd a'r llanw cyn ymweld 芒'r arfordir ac yn rhybuddio ynghylch y sioc i'r corff o ganlyniad plymio i dd诺r oer mewn pyllau dwfn fel Pwll Glas.

Dywedodd llefarydd eu bod yn cynghori pobl i ymweld 芒 thraethau lle mae achubwyr bywyd ar ddyletswydd.