'Angen cydnabod problemau iechyd meddwl pobl ddall'

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd Elin Williams bod cael ei chofrestru'n ddall wedi gwneud iddi deimlo'n unig

Rhaid gwella'r ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl ymhlith pobl ddall, yn 么l merch o Ddyffryn Conwy sy'n raddol wedi bod yn colli ei golwg ers yn chwech oed.

Mae ystadegau'n dangos bod pedwar o bob 10 person sydd 芒 nam ar eu golwg yn dangos symptomau o iselder.

Mae Elin Williams, 20 oed o Eglwys-bach, yn gallu gweld golau, siapiau a lliwiau, ond dydy hi ddim yn gallu adnabod pobl, neu faint o bobl sydd mewn ystafell.

Dywedodd ei bod wedi delio 芒 gorbryder ers yn ifanc, a bod hynny wedi gwaethygu trwy ei chyfnod yn yr ysgol.

'Teimlo'n wahanol'

"Dwi'n cofio'r ofn o'n i'n deimlo pan ges i fy nghofrestru'n ddall - oherwydd bod pobl ddim yn deall beth oedd nam golwg, doedden nhw ddim yn gwybod sut i'n nhrin i," meddai.

"O'n i'n teimlo'n wahanol ar adegau, yn enwedig am 'mod i'n gorfod gwneud gwaith trwy braille ac yn defnyddio ffon wen.

"Mi oedd o lot gwaeth pan o'n i yn yr ysgol, yn y chweched ddosbarth yn enwedig.

"Pan o'n i'n cerdded mewn i ystafell do'n i methu gweld pwy oedd yno neu lle i fynd i eistedd.

"O'n i ar fy mhen fy hun lot o'r amser a'n teimlo'n unig ac yn wahanol i bawb arall."

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Donna Jones "nid pawb sy'n teimlo'n hyderus yn siarad am iechyd meddwl"

Yn 么l elusen yr RNIB dim ond 17% o bobl sydd 芒 nam ar eu golwg sy'n cael cynnig cymorth emosiynol.

Dywedodd Donna Jones o Elusen Gwasanaethau Iechyd Meddwl Caniad mai "nid pawb sy'n teimlo'n hyderus yn siarad am iechyd meddwl".

"Mae pobl yn meddwl 'da chi'n gweld bod gen i ffon, a methu cerdded', ond dydyn nhw ddim yn meddwl ein bod ni'n gallu gweld yr iechyd meddwl y tu 么l i hynny," meddai.

"Weithiau dydy pobl ddim yn meddwl am y ddwy ochr - corfforol a meddyliol."

Agweddau rhai yn rhwystredig

Dechreuodd Ms Williams flog My Blurred World yn 2015 fel ffordd i drafod ei theimladau a gofidiau, ac mae hwnnw bellach 芒 dros 8,000 o ddilynwyr.

Yn ei blog mae hi'n trafod testunau dwys fel unigrwydd a diffyg swyddi i bobl anabl ond hefyd pynciau ysgafn fel ffasiwn a cholur.

Ond dywedodd Ms Williams, sydd hefyd yn astudio gradd mewn celfyddydau gyda'r Brifysgol Agored, bod agweddau rhai pobl tuag at ei chyflwr yn gallu bod yn rhwystredig.

"Maen nhw'n fy nghwestiynu i sut bod gen i ddiddordeb mewn ffasiwn os ydw i methu gweld," meddai.

"Mae eraill yn gofyn sut ydw i'n gallu defnyddio ff么n, neu'n gallu mynd ar dr锚n neu'r bws ar fy mhen fy hun.

"Dwi'n dal ddim yn si诺r iawn sut i ymateb i rai pethau, ond yn trio fy ngorau i ateb cwestiynau pobl."