Grant 拢2m gan y llywodraeth i adfywio Stryd Fawr Bangor

Disgrifiad o'r llun, Dangosodd ffigyrau bod bron i un o bob pum siop ar y stryd fawr yn wag ar hyn o bryd

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnig grantiau gwerth 拢2m er mwyn adfywio Stryd Fawr Bangor.

Mae busnesau a grwpiau cymdeithasol yn cael eu hannog i wneud cais am gyfran o'r arian er mwyn rhoi bywyd newydd i'r ardal.

Dangosodd ffigyrau bod bron i un ymhob pum siop ar y stryd fawr yn wag ar hyn o bryd.

Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas ei fod yn gobeithio gweld y cynllun yn sbarduno fwy o fuddsoddi yn yr ardal a chreu mwy o swyddi.

Bydd y cynllun yn cynnig cefnogaeth i berchnogion busnes wrth uwchraddio mynediadau siopau, gyda phwyslais ar y rhai sydd yn wag ar hyn o bryd.

Mae'r cyngor hefyd yn gobeithio creu ardaloedd fydd o les i'r gymuned.

Ffynhonnell y llun, Google

Ychwanegodd Mr Thomas: "Bydd yr arian yn targedu adeiladau gwag ac adeiladau sydd angen eu hadfywio gyda'r bwriad o roi hwb i fuddsoddi, i greu swyddi a rhoi hwb i fywyd y ddinas yn gyffredinol."

'Angen gwario'n ofalus'

Dywedodd Emyr Owen, rheolwr stondin ffrwythau a llysiau yn y farchnad wythnosol, ei fod yn croesawu'r arian ond ar yr amod ei fod yn cael ei "wario'n ofalus".

"Yn anffodus mae Bangor fel pob tref neu ddinas arall, hyd yn oed Llandudno, dim ond siopau elusen a siopau gwag sydd ym mhobman," meddai.

Yn 么l Neil Waite, cigydd yn y farchnad, mae angen gwneud mwy i ddenu siopwyr i ganol y ddinas: "Byddai parcio am ddim a mwy o ddigwyddiadau ar y Stryd Fawr yn helpu dod a phobl i mewn."

Mae'r cyngor yn cynnal digwyddiad ar y Stryd Fawr ddydd Mawrth lle mae modd derbyn mwy o wybodaeth am sut i wneud cais am yr arian.