Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Aelod Cynulliad UKIP, Michelle Brown yn gadael y blaid
Mae gr诺p UKIP yn y Cynulliad i lawr i dri aelod ar 么l i un o'u haelodau adael y blaid - y pedwerydd i wneud hynny ers 2016.
Dywedodd yr AC dros ogledd Cymru, Michelle Brown ei bod hi'n "gynyddol anghyfforddus yn siarad a phleidleisio ar ran gr诺p UKIP".
Mae'n disgrifio gr诺p UKIP yn y Cynulliad fel "clwb i fechgyn... rhywiaethol" ac yn dweud na allai stumogi'r blaid yn gyffredinol yn sgil cysylltiad yr arweinydd Gerard Batten 芒'r eithafwr asgell dde, Tommy Robinson.
Bydd hi nawr yn cynrychioli'r gogledd fel AC annibynnol. Mae UKIP wedi cael cais am ymateb.
Mae'n dilyn ymadawiad cyn-arweinydd y gr诺p, Caroline Jones y llynedd. Yn 2017, fe symudodd Mark Reckless draw at y Ceidwadwyr, cyn i Nathan Gill hefyd adael y gr诺p.
Mewn datganiad, dywedodd Ms Brown ei bod wedi ofni bod synnwyr cyffredin yn pylu o fewn y blaid pan rannodd Mr Batten a'r AC Neil Hamilton lwyfan 芒 chyn-arweinydd yr EDL (English Defence League) Tommy Robinson, a gafodd ei benodi fel ymgynghorydd i'r blaid y llynedd.
Mae'n honni bod e-bost gan Mr Batten ddydd Gwener yn datgan bod Mr Robinson am noddi digwyddiad UKIP - cam, meddai, sy'n cynyddu "ei gysylltiad a'i statws o fewn UKIP".
Ffwndamentaliaeth
"Tra bod hi'n glir bod y DU angen cynllun i drechu pob math o eithafiaeth a ffwndamentaliaeth, rwy'n ofni bod arweinyddiaeth bresennol UKIP yn credu taw'r ffordd orau o wneud hynny yw trwy fagu a meithrin ffwndamentaliaeth groes," meddai.
Mae Ms Brown yn beirniadu arweinydd UKIP yn y Cynulliad, Gareth Bennett, gan ddweud iddo wneud dim ymdrech i gadw Caroline Jones o fewn y gr诺p, a chwarae rhan allweddol o ran peidio 芒 chynnwys Mandy Jones yn y gr诺p wedi iddi hithau olynu Mr Gill yn y Senedd.
"Dyw'r gr诺p ddim yn gweithredu fel gr诺p ond fel clwb i fechgyn," meddai. "Nid ffawd sydd i gyfri' bod dim aelodau benywaidd ynddo erbyn hyn."
Ychwanegodd nad oedd wedi cael cyfrannu i'r broses o benderfynu sut ddylai'r gr诺p bleidleisio ar faterion amrywiol ers misoedd.
Dywedodd ffynhonnell o fewn UKIP bod penderfyniad Ms Brown i fod yn AC annibynnol "ddim yn annisgwyl".
Mae'r blaid wedi gweld sawl ffrae fewnol ers i saith aelod gael eu hethol i'r Cynulliad yn 2016 a Mr Bennett yw trydydd arweinydd y gr诺p ym Mae Caerdydd ers hynny.
Dan reolau'r Cynulliad mae'n rhaid cael o leiaf tri AC er mwyn cael eu cofnodi a'u cyllido fel gr诺p ffurfiol.