Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn wynebu colledion o 拢42m

Mae rhybudd bod "misoedd allweddol" yn wynebu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn sgil cyhoeddiad o ddiffyg ariannol o 拢42m.

Mae'r bwrdd, sy'n gwasanaethu cleifion yng ngogledd Cymru, wedi bod mewn mesurau arbennig ers Mehefin 2015 yn dilyn pryderon am ei berfformiad.

Er i adroddiad diweddar ddweud bod "cynnydd wedi bod mewn sawl maes", mae'r bwrdd yn dal i wynebu "agenda heriol i wella" ac yn parhau i fod o dan fesurau arbennig.

Bydd aelodau o'r bwrdd rheoli yn cyfarfod yn Wrecsam ddydd Iau i drafod pa gamau nesaf i'w cymryd.

'Consyrn parhaus'

Bydd aelodau'n derbyn adroddiad fydd yn dangos bod y bwrdd iechyd wedi gorwario 拢42m yn y flwyddyn ariannol, sy'n gorffen ddiwedd mis Mawrth.

Mae penaethiaid iechyd wedi rhoi rhywfaint o'r bai am y swm uchel ar gostau gofal iechyd meddwl a phecynnau gofal i bobl ag anghenion parhaus.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Dr Andrew Goodall fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn wynebu "cyfnod allweddol"

Yn ddiweddar, mae prif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi ysgrifennu at y bwrdd iechyd yn ei feirniadu am beidio mynd i'r afael yn ddigonol 芒'r mesurau.

Dywedodd Dr Andrew Goodall yn ei lythyr fod "consyrn parhaus ynghylch y diffyg cyflymder sy'n angenrheidiol am newid".

"Bydd y misoedd nesaf yn rhai allweddol i chi er mwyn dangos eich bod yn gallu gwella a chyflawni cynaliadwyedd," meddai.

Y cwestiwn 拢1bn

Mae gan y bwrdd iechyd hefyd bortffolio eang o eiddo, gyda 137 o adeiladau.

Bydd rhaid i'r bwrdd ystyried sut mae cadw'r adeiladau yma'n addas ar gyfer eu pwrpas yn sgil y trafferthion ariannol.

Y gred ydy y byddai'r gost o gynnal a chadw'r adeiladau - yn y drefn bresennol - tua 拢838m dros 15 mlynedd.

Disgrifiad o'r llun, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ydy'r bwrdd iechyd mwyaf yng Nghymru

Pe byddai'r bwrdd yn dymuno bwrw 'mlaen 芒 strategaeth tymor hir Byw'n Iach, Aros yn Iach, byddai'r gost yn codi i 拢1.25bn.

Bwriad y strategaeth honno yw canolbwyntio ar gampws ysbyty Wrecsam, Bodelwyddan a Bangor, ynghyd 芒 14 "clwstwr", ac i ddarparu gofal yn agosach i adref a chreu ffyrdd newydd o weithio.

Yn 么l awdur yr adroddiad dydd Iau, mae nifer o ysbytai a meddygfeydd yn rhy hen ac yn anaddas.