Pam ein bod ni'n troi'r clociau ymlaen?

Disgrifiad o'r llun, Oes angen newid y cloc?

Mae hi'n amser unwaith eto i droi'r clociau 'mlaen!

Am un o'r gloch fore Sul 31 Mawrth byddwn ni'n troi'r clociau awr ymlaen. Ond pam ydyn ni'n troi'r clociau, ac ydy o'n syniad da? Cymru Fyw fu'n ymchwilio:

Y syniad tu 么l i amser haf, neu British Summer Time (BST), ydy gwneud i bobl godi'n 'gynt' fel eu bod nhw'n gwneud y gorau o haul gyda'r nos yn ystod yr haf.

Mae hyn yn cael ei wneud drwy ychwanegu awr i amser Greenwich Mean Time (GMT). Felly BST = GMT+1.

Heb BST mi fyddai'r haul yn codi am 03:43 a machlud am 21:21. Gyda BST, bydd yr haul yn codi am 04:43 ac yn machlud am 22:21. Felly, bydd mwy o bobl yn effro yn ystod yr oriau pan mae'r haul i'w weld.

Disgrifiad o'r llun, Newid amser? Da 'ta drwg?

Pryfeta a rhyfela

George Vernon Hudson o Seland Newydd oedd y cyntaf i gynnig y syniad o droi'r clociau yn ystod haf 1895 er mwyn caniat谩u iddo allu mynd i gasglu pryfaid gyda'r nos.

Mae'n debyg bod Sais o Lundain o'r enw William Willett wedi cael yr un syniad 芒 Hudson yn 1905, yn gwbl ar wah芒n, pan sylwodd bod nifer o drigolion y ddinas yn cysgu drwy rai o oriau hyfrytaf y dydd.

Perswadiodd Willett ei Aelod Seneddol i gyflwyno mesur fyddai'n edrych ar y mater, ac er iddo gael ei ystyried cafodd ei roi o'r neilltu am y tro.

Roedd y Rhyfel Mawr hefyd yn sbardun am newid wrth i wledydd geisio sicrhau mantais dros eraill - roedd troi'r clociau yn arbed glo, gan ei bod hi'n oeri'n hwyrach yn y dydd.

Unwaith roedd un wlad yn cael mantais roedd yn rhaid i'r gwledydd eraill wneud yr un fath, ac o fewn dyddiau roedd llu o wledydd wedi troi'r clociau. Dilynodd Prydain hefyd, ond fe aethon ni'n 么l i'r hen drefn ar 么l y rhyfel.

Ers hynny mae gwahanol wledydd wedi mabwysiadu gwahanol systemau o droi'r clociau. Mae system Prydain yn waddol o argyfwng ynni'r 70au pan gafodd BST ei gyflwyno er mwyn arbed glo.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cennin pedr yn ein hatgoffa (gobeithio!) bod yr awr ar fin newid

Newid neu beidio?

Ond mae 'na ddadleuon cyson dros gadw'r drefn bresennol tra bod eraill am weld BST yn cael ei gadw drwy'r flwyddyn.

Y prif ddadleuon dros droi'r clociau yn 么l ydy diogelwch ar y ffyrdd, gydag awgrymiadau fod boreau tywyll yn peryglu bywydau plant sy'n teithio i'r ysgol.

Mae 'na bryderon hefyd am ddiogelwch gweithwyr fel ffermwyr ac adeiladwyr sy'n draddodiadol yn hoff o fanteisio ar foreau golau.

I'r rhai sy'n frwd dros gadw BST trwy'r flwyddyn maen nhw'n crybwyll arbed ynni. Byddai 'na lai o ddefnydd ar oleuadau trydan er enghraifft. Mae 'na amcangyfri' hefyd y byddai'r diwydiant dwristiaeth yn elwa o tua 拢3.5bn y flwyddyn.

Ond dim pawb sydd wedi eu hargyhoeddi i gadw BST oherwydd bod nifer yr oriau o haul yn gyfyngedig, ac mae'n mynd yn fater o ddewis o gael haul yn y bore neu haul yn y prynhawn.

Yn sicr fydd yr haul ddim yn machlud ar y drafodaeth hon am beth amser eto...

Disgrifiad o'r llun, Mae'n bryd i'r nosweithiau ymestyn