Diffyg ariannol byrddau iechyd Cymru'n gostwng
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth diffyg ariannol byrddau iechyd ostwng 42% y llynedd, ond mae pryderon yn parhau am Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Ar ddiwedd y flwyddyn roedd diffyg ariannol y saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn 拢97.4m.
Roedd diffyg ariannol Betsi Cadwaladr wedi codi i 拢42m.
Ymhlith y ffactorau sy'n cyfrannu at y diffyg mae gofal cymhleth am oedolion, costau iechyd meddwl a llogi asiantaethau nyrsio i ddelio 芒 phrinder staff yn ysbytai Glan Clwyd a Maelor Wrecsam.
Yn y flwyddyn flaenorol Hywel Dda oedd 芒'r diffyg ariannol mwyaf - ond bellach mae'r bwrdd iechyd ar fin cwrdd 芒'r gofyn o ddyled o 拢35.5m wedi iddynt gael cymorth o 拢27m gan Lywodraeth Cymru.
Yn 么l llefarydd mae oedi cyn rhyddhau cleifion iach o ysbytai yn parhau i fod yn dreth ar gostau ond mae Huw Thomas, cyfarwyddwr cyllid Hywel Dda, yn dweud bod yna "reoli tynn" wedi bod ar gostau.
Dywedodd: "Mae hyn yn gam arwyddocaol i'r bwrdd iechyd ac yn ganlyniad gwaith diflino ac ymroddiad gan staff."
Mae problemau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gorfodi'r bwrdd iechyd i fod o dan fesurau arbennig ers 2015, ac y mae Llywodraeth Cymru yn cadw golwg ar sut mae'r bwrdd iechyd yn rheoli ysbytai a gwasanaethau iechyd eraill yng ngogledd Cymru.
Mae'r adroddiad ariannol diweddaraf yn tynnu sylw at fethiant y bwrdd i gynilo digon - 拢6.7m yn fyr o'r hyn oedd wedi'i fwriadu.
Mae prinder staff wedi bod yn broblem ers tro ac mae ysbytai Glan Clwyd a Maelor Wrecsam rhyngddynt yn gwario 拢1m y mis ar gyflogi staff asiantaeth.
Dywedodd llefarydd: "Rhagwelir y bydd ein dyled rhwng 拢40m a 拢42m ar ddiwedd y flwyddyn - hynny'n ddibynnol ar y rhestri aros terfynol.
"Roeddem wedi cytuno gyda Llywodraeth Cymru i beidio cael diffyg ariannol o fwy na 拢35m yn 2018/19."
Y byrddau eraill
Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro eu bod yn hyderus y byddant yn gwneud "gwelliant ariannol arwyddocaol" wedi diffyg o 拢26.9m y llynedd - amcangyfrif o 拢9.9m.
Yn ogystal mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething bellach wedi peidio cadw golwg ar y sefyllfa ariannol ac wedi derbyn cynllun tair blynedd ar gyfer y dyfodol, gan ddweud "bod y bwrdd iechyd wedi gweithio'n adeiladol ac yn aeddfed gyda fy swyddogion i ddelio 芒 nifer o faterion ariannol".
Dywed Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg ei bod yn debygol o gwrdd 芒'r gofyn o orwariant o 拢10m a'u bod yn cadw llygad gofalus ar yr hyn a allai eu rhwystro i gyrraedd y nod.
O'r penwythnos hwn mae ffiniau Cwm Taf yn newid wrth iddynt fod yn gyfrifol am ysbytai a gwasanaethau iechyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Dyw Cwm Taf ddim wedi gwneud colled ers 2009 a dywedodd llefarydd: "Mae bod mewn sefyllfa ariannol gytbwys yn ein helpu i ddelio 芒 heriau sy'n wynebu pob bwrdd iechyd wrth i'r boblogaeth heneiddio a thyfu."
Yn y cyfamser mae byrddau iechyd Aneurin Bevan a Phowys wedi peidio mynd i ddyled am yr ail flwyddyn yn olynol.
Dadansoddiad gohebydd iechyd 麻豆官网首页入口 Cymru, Owain Clarke
Ar y cyfan dyma newyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn ei groesawu.
Mae pedwar o'r byrddau iechyd mawr, i raddau, wedi llwyddo i gyfyngu ar ei gwariant.
Yn achos Hywel Dda, arian ychwanegol sydd wedi eu helpu nhw i gael diffyg ariannol llai - wedi i adolygiad ddod i gasgliad fod gan y bwrdd iechyd anghenion arbennig oherwydd natur y boblogaeth a safle daearyddol y bwrdd.
A chofiwch, mae cyllidebau Llywodraeth Cymru wedi bod yn hael i'r gwasanaeth iechyd ar y cyfan.
Mae'n ddarlun positif ar adeg pan mae'r galw am ofal yn cynyddu.
Bydd mwy o gyfarwyddwyr ariannol byrddau iechyd yn gwenu'r penwythnos hwn na'r un adeg y llynedd.
Y gofid mwyaf, fel ag erioed, yw Betsi Cadwaladr. Nhw bellach sydd 芒'r ddyled fwyaf o bawb ac mae'r gorwariant yn uwch na llynedd.
Wrth i broblemau Betsi Cadwaladr barhau dyw hi ddim yn edrych yn debyg y bydd y bwrdd iechyd yn dianc rhag bod o dan fesurau arbennig yn fuan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2019