麻豆官网首页入口

David Davies: ASau 'angen derbyn cyfaddawd' ar Brexit

  • Cyhoeddwyd
David Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

David Davies says MPs may need to accept a slower form of Brexit

Bydd gwleidyddion ar ddwy ochr dadl Brexit yn gorfod "derbyn rhyw fath o gyfaddawd", yn 么l AS Ceidwadol o Gymru.

Daeth sylwadau David Davies ar 么l i gynllun Brexit Theresa May gael ei wrthod yn Nh欧'r Cyffredin am y trydydd tro ddydd Gwener.

Mae'r Prif Weinidog nawr yn ystyried ffyrdd gwahanol o gynnal pleidlais arall ar y Cytundeb Ymadael.

Dydd Llun bydd ASau yn parhau 芒'u hymdrechion i geisio dod o hyd i ddatrysiad trwy gynnal cyfres arall o bleidleisiau ar nifer o opsiynau gwahanol yngl欧n 芒 Brexit.

'Dim yn si诺r ble allwn ni fynd'

"Rydw i eisiau meddwl yn ofalus am hyn dros y penwythnos," meddai AS Mynwy.

"Rydyn ni oll am orfod cyfaddawdu - mae'n amlwg nad oes unrhyw un am gael yn union beth maen nhw eisiau.

"Oni bai fod y ddwy ochr yn gallu derbyn rhyw fath o gyfaddawd dydw i wir ddim yn si诺r ble allwn ni fynd."

Mae Mr Davies wedi cefnogi cytundeb Mrs May dair gwaith yn Nh欧'r Cyffredin.

Ffynhonnell y llun, T欧'r Cyffredin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd cynllun Brexit Theresa May gael ei wrthod yn Nh欧'r Cyffredin am y trydydd tro ddydd Gwener

Yn y cyfamser, ar ymweliad 芒 Chasnewydd fe wnaeth arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn feirniadu'r prif weinidog am ystyried cynnal pleidlais arall ar ei chytundeb.

Dywedodd bod y sefyllfa yn mynd "tu hwnt i hurt".

Fe wnaeth AS Plaid Cymru, Hywel Williams ategu sylwadau Mr Corbyn.

"Byddai unrhyw brif weinidog arall wedi ymddiswyddo erbyn hyn," meddai.

"Ond dydw i ddim yn meddwl ei bod hi'n gwrando. Mae hi'n clywed yr hyn 'da ni'n ei ddweud, ond dydy hi ddim yn gwrando o gwbl."