Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gorllewin Casnewydd: Y blychau pleidleisio wedi cau
Mae trigolion etholaeth Gorllewin Casnewydd wedi bod yn pleidleisio ddydd Iau i ddewis Aelod Seneddol newydd.
Cafodd yr isetholiad ei alw yn dilyn marwolaeth Paul Flynn ym mis Chwefror.
Mae 11 o ymgeiswyr yn sefyll yn yr isetholiad, a bu'r pleidleisio'n digwydd rhwng 07:00 a 22:00.
Mae disgwyl i'r canlyniad gael ei gyhoeddi yn ystod oriau m芒n fore Gwener.
Yr ymgeiswyr yn llawn ydy:
- Jonathan Clark (Plaid Cymru);
- June Davies (Renew);
- Matthew Evans (Ceidwadwyr);
- Neil Hamilton (UKIP);
- Ruth Jones (Llafur);
- Ryan Jones (Democratiaid Rhyddfrydol);
- Ian McLean (SDP);
- Hugh Nicklin (For Britain);
- Richard Suchorzewski (Abolish the Welsh Assembly);
- Philip Taylor (Democrats and Veterans);
- Amelia Womack (Y Blaid Werdd).