Penodi Kevin Foster yn is-weinidog newydd Swyddfa Cymru

Ffynhonnell y llun, Senedd y DU

Disgrifiad o'r llun, Mae Kevin Foster wedi bod yn AS etholaeth Torbay yn Nyfnaint ers 2015

Mae'r Aelod Seneddol Kevin Foster wedi cael ei benodi'n olynydd i Nigel Adams fel is-weinidog yn Swyddfa Cymru.

Mr Foster yw'r pumed person yn y flwyddyn ddiwethaf i gymryd y r么l.

Fe wnaeth Mr Adams ymddiswyddo ddydd Mercher yn dilyn penderfyniad Theresa May i gynnal trafodaethau ag arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn.

Mae Mr Foster, 40, wedi bod yn AS etholaeth Torbay yn Nyfnaint ers 2015, ac ni fydd yn derbyn t芒l am ei r么l newydd.