Brexit digytundeb: 'Dim prinder bwyd, ond llai o ddewis'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe allai pobl Cymru weld "llai o amrywiaeth o fwyd" petae'r DU yn gadael yr UE heb gytundeb, yn 么l Prif Weinidog Cymru.

Dywedodd Mark Drakeford wrth 麻豆官网首页入口 Cymru bod yna gynnyrch ar silffoedd archfarchnad ar hyn o bryd na fydd ar gael petae yna Brexit digytundeb - ac mae'n dweud bod yna "risg wirioneddol" mai dyna fydd yn digwydd.

Mae'n rhybuddio y byddai'r effaith yn "ddinistriol" i ddiwydiannau a fyddai'n wynebu rhagor o dollau, ond mae'n dweud na fydd yna brinder bwyd.

Mae'r Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) wedi cael cais am ymateb.

Mewn cyfweliad ar raglen Sunday Supplement, dywedodd Mr Drakeford bod "dim angen mynd i banig" ond mae yna "bethau allwch chi brynu heddiw heb feddwl ddwywaith, na fydden nhw yna wedi Brexit heb gytundeb".

Gwnaeth y Prif Weinidog ddim manylu ar ba fath o nwyddau fyddai'n cael eu heffeithio, gan ychwanegu "ond dyw hynny ddim yn dweud na fydd yna fwyd ar y silffoedd a phethau na fydd pobl yn gallu eu prynu."

Disgrifiad o'r llun, Mae Mark Drakeford yn rhybuddio y bydd ciwiau ar draws Ynys M么n i'r tir mawr o ganlyniad gwirio nwyddau ym mhorthladd Caergybi

Dywedodd Mr Drakeford bod llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon dan bwysau i wirio nwyddau ar y ffin os fydd y DU yn gadael yr UE.

"Os fyddai'r gwiriadau'n para 90 eiliad, yna fe fydden 'na giwiau holl ffordd ar draws Ynys M么n ac i'r tir mawr," meddai.

Ychwanegodd y byddai "effaith gadael dan yr amgylchiadau hynny yn rhai gwirioneddol," yn enwedig i fusnesau bwyd sy'n dibynnu ar gael cynnyrch ffres.

"Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn gydag archfarchnadoedd, yn enwedig ar y cadwyni cyflenwi i rannau pellaf Cymru ac rydym wedi cael sicrwydd ganddyn nhw na fyddai 'na anfantais i'r ardaloedd hynny."

Fe wnaeth Mr Drakeford gwrdd 芒 Theresa May yn Downing Street ddydd Mercher wedi'r methiant i sicrhau cefnogaeth i'w chytundeb Brexit yn Nh欧'r Cyffredin.

Dywedodd Mr Drakeford bod y ddwy ochor yn San Steffan yn trafod ar sail "ymgais gwirioneddol i ganfod tir cyffredin".