Carchardai: Defnyddio swyddogion terfysg dros 50 o weithiau

Disgrifiad o'r llun, Mae dros 1,700 o droseddwyr yng Ngharchar y Parc

Cafodd t卯m o swyddogion el卯t sy'n arbenigo mewn ymdrin 芒 therfysg mewn carchardai eu defnyddio dros 50 o weithiau yng Nghymru'r llynedd.

Daw'r ffigyrau yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan y 麻豆官网首页入口, a oedd yn dangos bod y t卯m wedi ymateb i:

  • 30 o ddigwyddiadau yng Ngharchar y Parc, Pen-y-Bont;
  • 16 yng Ngharchar Berwyn, Wrecsam;
  • 5 yng Nghaerdydd

Carchar Abertawe oedd yr unig leoliad oedd heb wneud defnydd o'r swyddogion terfysg.

Roedd Cymdeithas y Swyddogion Carchardai yn beio diffyg staff, cynnydd mewn trais, problemau cyffuriau, mynediad i ffonau symudol a gorlenwi.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod y rhan fwyaf o'r galwadau allan ar gyfer digwyddiadau di-drais.

Roedd y rhan fwyaf o'r galwadau allan yn 2018 yng Nghymru a Lloegr yn cynnwys carcharorion yn dringo ar doeau neu rwydi diogelwch ac roedd mwy na 30 o sefyllfaoedd gwystlon.