麻豆官网首页入口

'Maes Awyr Caerdydd angen canolbwyntio ar greu swyddi'

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr Caerdydd

Gan fod denu cwmn茂au awyrennau i Faes Awyr Caerdydd mor anodd, mae angen i swyddogion ganolbwyntio ar ddatblygu agweddau eraill, yn 么l arbenigwr yn y maes.

Dywedodd Peter Phillips bod angen i Faes Awyr Caerdydd geisio datblygu'r ardal fenter o'i chwmpas yn ogystal 芒 chryfhau'r gwasanaethau cludiant awyr.

Mae cwmni awyrennau Flybe eisoes wedi dweud y byddan nhw'n cwtogi ar nifer yr hediadau o Faes Awyr Caerdydd, gan beryglu swyddi.

Yn 么l rheolwyr y maes awyr, mae'n nhw yn y broses o edrych ar "ddulliau dyfeisgar" o greu cyfleoedd busnes newydd.

Mae Mr Phillips yn gyn-reolwr ym Maes Awyr Caerdydd, sydd hefyd wedi gweithio fel ymgynghorydd ym meysydd awyr Brisbane ac Amsterdam.

Credai ef fod angen mwy o bwyslais ar greu swyddi drwy ddatblygu'r ardal o gwmpas y maes awyr.

Ychwanegodd bod angen gwella'r cysylltiadau trafnidiaeth, gan nodi gwasanaethau tr锚n rhwng y maes awyr a threfi fel Gloucester a Cheltenham fel opsiynau posib, yn ogystal 芒 threfnu mwy o deithiau bws Traws Cymru.

Ffynhonnell y llun, Flybe
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Flybe eisoes wedi dweud y byddan nhw'n cwtogi ar nifer yr hediadau o Gaerdydd

Mae'r arbenigwr teithio, Simon Calder wedi canmol swyddogion y maes awyr gan ddweud ei bod hi'n "wyrth" eu bod nhw wedi sicrhau teithiau Qatar Airways o Gaerdydd i Doha.

Dylai Maes Awyr Caerdydd ddilyn esiampl Maes Awyr Dwyrain Canolbarth Lloegr, yn 么l Mr Calder.

"Mae'r maes awyr yn gwneud yn dda gan ei bod yng nghanol y wlad, yn weddol agos i bobman," meddai.

"Y lle delfrydol ar gyfer maes awyr yng Nghymru byddai rhywle rhwng Caerdydd a Chasnewydd ac yn agos at reilffordd."

Ychwanegodd bod angen edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno hediadau newydd i fannau megis Istanbul a Heathrow.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod yno "gryn dipyn o waith da" yn digwydd ym maes Awyr Caerdydd ac Ardal Fenter Sain Tathan.

Mae rhannau helaeth o'r safle eisoes yn cael eu paratoi ar gyfer gwaith datblygu, tra bod Maes Awyr Sain Tathan bellach yn nwylo'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae'r ardal eisoes yn cefnogi miloedd o swyddi, yn 么l y llefarydd, gan gynnwys nifer yng nghanolfan Aston Martin yn Sain Tathan.

Dywedodd prif weithredwr y maes awyr, Deb Barber, mai teithwyr a hediadau masnachol yw "calon y maes awyr", ond bod ganddyn nhw gynllun i ddatblygu'r safle erbyn 2040.

Fe ddisgrifiodd hi benderfyniad cwmni Global Trek i sefydlu pencadlys yng Nghaerdydd fel "cam mawr ymlaen" yn y datblygiad.