麻豆官网首页入口

Mark Drakeford 'yn erbyn addo refferendwm arall'

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd cynnwys maniffesto Llafur yn cael ei benderfynu wythnos nesaf

Mae Prif Weinidog Cymru wedi gwrthod cefnogi addewid pendant i gynnal refferendwm arall ar Brexit fel rhan o faniffesto'r Blaid Lafur ar gyfer etholiadau Ewrop.

Dywedodd Mark Drakefod wrth raglen Sunday Politics Cymru ei fod yn credu y dylai pleidlais arall "barhau yn rhan o'r drafodaeth" yn y maniffesto.

Mae galw cynyddol wedi bod o fewn y Blaid Lafur i gefnogi refferendwm arall, gydag oddeutu 100 AS ac ASE yn gofyn am "ymrwymiad clir" i roi cyfle i'r cyhoedd bleidleisio ar unrhyw gytundeb Brexit.

Wythnos ddiwethaf fe wnaeth dau AC Llafur Cymru rybuddio bod y blaid mewn peryg o roi'r fuddugoliaeth i Nigel Farage os nad ydynt yn ymgyrchu o blaid refferendwm arall ar berthynas y DU gyda'r UE.

Ychwanegodd Mr Drakeford bod cael pleidlais ar unrhyw gytundeb yn wahanol fater "ac yn un sydd angen ei drafod ymhellach."

Ym mis Medi fe gytunodd y Blaid Lafur i alw am etholiad cyffredinol pe bai cytundeb y Llywodraeth yn cael ei wrthod, neu os oedd y trafodaethau'n gorffen heb gytundeb.

Ond dywedodd y blaid y bydden nhw'n "cefnogi pob opsiwn arall ar y bwrdd, gan gynnwys pleidlais gyhoeddus" os nad oedd modd sbarduno etholiad.

Bydd cynnwys maniffesto Llafur yn cael ei benderfynu wythnos nesaf.

Mae'r bleidlais wedi cael ei threfnu ar gyfer dydd Iau, 23 Mai gyda'r cyfrif yn dechrau ar y nos Sul canlynol.