Leanne Wood: Tlodi yn ffactor ym methiannau mamolaeth?

Disgrifiad o'r llun, Gofynnodd Leanne Wood a fyddai methiannau o'r fath mewn ardaloedd mwy llewyrchus?

Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru wedi annog y Gweinidog Iechyd i ymchwilio i weld a fyddai methiannau fel y rhai yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi digwydd mewn "rhannau mwy llewyrchus" o Gymru.

Ddydd Mawrth cafodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ei roi dan fesurau arbennig gan Vaughan Gething yn dilyn dwsinau o achosion difrifol yn unedau mamolaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant ac Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.

Bydd panel annibynnol nawr yn goruchwylio'r gwasanaethau mamolaeth i sicrhau gwelliannau.

Wrth drafod y mater yn y Senedd gofynnodd Leanne Wood, AC Rhondda: "Tybed faint o broblem fyddai hyn wedi bod mewn ardaloedd mwy llewyrchus - mae safbwyntiau pobl dlawd yn aml iawn yn haws i'w hanwybyddu ar draws ystod eang o wasanaethau cyhoeddus?

"Yn aml rwy'n clywed aml am bobl yn cael eu trin yn wahanol o'i gymharu 芒 rhai o gefndiroedd dosbarth canol."

Disgrifiad o'r llun, Mae Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn gwasanaethu nifer o ardaloedd llai llewyrchus

Mewn ymateb i Ms Wood, dywedodd Mr Gething nad oedd o'r farn fod rhesymau economaidd a chymdeithasol yn ffactor.

"Nid ydych yn clywed yr un stori a hon o ardaloedd eraill tebyg i'r ardal dan sylw," meddai.

Ond ychwanegodd mai mater i'r panel annibynnol fyddai penderfynu ar ba faterion fyddai'n cael sylw ganddynt.

Fe wnaeth AC Llafur, Lynne Neagle, hefyd holi yngl欧n 芒 ffactorau economaidd.

"Dwi ddim yn credu byddai achosion o'r fath yma heb ddod i sylw yn gynt mewn ardaloedd mwy llewyrchus."

Galw am ymddiswyddiad

Fe ddywedodd AC Plaid Cymru Helen Mary Jones y dylai Mr Gething ystyried ymddiswyddo.

"Yn y gwasanaethau cymdeithasol, yn addysg, byddai methiannau systematig fel hyn wedi golygu pobl yn gadael," meddai.

Dywedodd Mr Gething: "Ni fyddaf yn ymddiswyddo.

"Mi fyddaf yn camu lan i'm cyfrifoldebau fel gweinidog ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, gan oruchwylio'r newidiadau angenrheidiol rwy'n derbyn sydd eu hangen."