麻豆官网首页入口

Mark Reckless yn gadael gr诺p y Ceidwadwyr yn y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Mark Reckless
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mark Reckless fod Llywodraeth y DU "wedi torri ei addewid i ddelifro Brexit"

Mae cyn-AC UKIP, Mark Reckless wedi cyhoeddi ei fod yn gadael gr诺p y Ceidwadwyr yn y Cynulliad.

Dywedodd ar Twitter ei fod wedi gadael y gr诺p am fod Llywodraeth y DU "wedi torri ei addewid i ddelifro Brexit".

Daw ei ymadawiad wrth i sibrydion gynyddu y bydd gr诺p Brexit Party yn ffurfio yn y Cynulliad.

Er ei fod yn aelod o'r gr诺p yn y Cynulliad, doedd Mr Reckless ddim wedi bod yn aelod o'r Blaid Geidwadol ers iddo adael yn 2014.

Cafodd ei ethol fel AC ar rhestr rhanbarthol UKIP.

Fe wnaeth Mr Reckless adael UKIP er mwyn ymuno 芒 gr诺p y Ceidwadwyr yn y Cynulliad ym mis Ebrill 2017.

'Cyfraniad gwerthfawr'

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Reckless ei fod wedi gadael y gr诺p Ceidwadol "ar dermau da".

Fe wnaeth arweinydd gr诺p y Ceidwadwyr, Paul Davies ddiolch i Mr Reckless "am ei gyfraniad gwerthfawr" dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ychwanegodd Mr Davies: "Rwy'n gwerthfawrogi bod yna safbwyntiau cryf ar Brexit ond mae ein hymrwymiad yn glir - mae'n rhaid i Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd."

Does dim cadarnhad y bydd gr诺p Brexit Party yn ffurfio yn y Cynulliad, ond dywedodd un ffynhonnell bod ymadawiad Mr Reckless yn gam tuag at hynny.

Ond ychwanegodd y ffynhonnell nad oedd y gr诺p yn sicrwydd.