Brexit meddal yn llai tebygol medd Jeremy Miles

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Jeremy Miles bod Llywodraeth Cymru'n ffafrio Brexit meddal neu refferendwm arall

Mae cytundeb Brexit fwy "meddal" yn llai tebygol yn sigl methiant trafodaethau diweddar, yn 么l gweinidog Brexit Cymru.

"Pryderus iawn" oedd dadansoddiad Jeremy Miles AC o'r sefyllfa, yn dilyn cwymp trafodaethau rhwng llywodraeth Theresa May a'r blaid Lafur.

Yn 么l Mr Miles, mae angen i aelodau seneddol yn San Steffan gymryd rheolaeth o'r broses ac arwain y DU tuag at berthynas agosach gyda'r Undeb Ewropeaidd neu refferendwm arall.

Wrth siarad cyn yr etholiad Ewropeaidd ddydd Iau dywedodd y gallai'r frwydr i olynu Mrs May fel prif weinidog olygu y bydd rhaid ymestyn proses Brexit tan ar 么l yr Hydref.

Daeth sylwadau Mr Miles ar 么l i arolwg barn diweddar awgrymu y gallai Llafur ddod yn drydydd yng Nghymru yn yr etholiad Ewropeaidd, y tu 么l i Blaid Brexit a Phlaid Cymru.

"Yn amlwg... ni fyddwn yn hapus gyda hynny pe bai'r canlyniad yna'n digwydd," meddai.

"Beth sy'n ymddangos fel petai'n digwydd yw bod pleidiau sydd 芒 neges syml yn llwyddo."

Dywedodd Mr Miles y byddai Llywodraeth Cymru am weld Brexit meddal - lle mae yna berthynas economaidd agosach gyda'r UE - neu refferendwm arall.

Galwodd ar ASau i geisio sicrhau mwyafrif o blaid y naill opsiwn neu'r llall.