麻豆官网首页入口

Gobaith y bydd gosodiad ymbar茅l yn hwb i Gaernarfon

  • Cyhoeddwyd
Ymbarelau Stryd y PlasFfynhonnell y llun, Siop Iard
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd rhaid i bob busnes ar y stryd gytuno cyn bwrw 'mlaen 芒'r cynllun

Mae 200 o ymbarelau amryliw yn cael eu gosod uwchben un o strydoedd Caernarfon gyda'r gobaith o roi hwb i fusnesau canol y dref.

Bydd y gosodiad celf i'w weld yn Stryd y Plas fel arbrawf tan ddiwedd gwyliau'r haf, gyda'r nod o greu atyniad all ddatblygu i fod yn un flynyddol.

Dywedodd un o'r trefnwyr, Gavin Owen o'r cwmni adfywio di-elw Hwb Caernarfon, iddo awgrymu'r syniad ar 么l gweld gosodiad tebyg tra ar wyliau yn Barcelona.

Mae yna gynlluniau hefyd i greu atyniad "tebyg ond gwahanol" yn Stryd Llyn fel rhan o'r ymdrechion i wella delwedd y dref a denu mwy o ymwelwyr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr ymbarelau glas gafodd eu gosod yn gyntaf

Bydd rhesi o ymbarelau'n hongian o geblau ryw 10m o uchder ar hyd Stryd y Plas.

Bydd modd ailddefnyddio'r ceblau i ddal goleuadau Nadolig a gosodiadau celf eraill i gyd-fynd 芒 digwyddiadau fel G诺yl Fwyd Caernarfon a G诺yl Arall.

'Ma' isio rwbath fel hwn'

"Roedd rhaid cael consent pob busnes a pob landlord ar y stryd ac roedden nhw i gyd yn deud, 'ia, gr锚t, ma' isio rwbath fel hwn'," meddai Mr Owen.

Mae rhai wedi cwestiynu'r penderfyniad i fywiogi stryd sydd eisoes yn ffynnu, yn hytrach na Stryd Llyn, sydd 芒 nifer o siopau gwag.

Dyna oedd y bwriad yn wreiddiol, medd Mr Owen, ond roedd yn amhosib am nifer o resymau ymarferol, gan gynnwys materion iechyd a diogelwch a hyd y stryd.

"Yn llefydd fel Lerpwl, ma'r ambar茅ls 'di chwalu pan ma'r tywydd yn troi, felly fysa 'na broblem efo'r gwynt o'r Maes."

Ychwanegodd Mr Owen bod bwriad i weithio gydag artistiaid lleol "i greu cynllun tebyg ond gwahanol" ar gyfer Stryd Llyn.

Ffynhonnell y llun, Siop Iard

Mae Mr Owen yn cydnabod bod ambell i unigolyn wedi beirniadu'r syniad am resymau ariannol.

"Ma' un neu ddau yn cerdded heibio ac yn deud 'be 'da chi'n neud' a 'wast o bres' - pobol sy'n meddwl mai pres cyngor ydi o. Mae hwn yn rwbath hollol ar wah芒n."

Dywedodd Mr Owen eu bod wedi cael 拢16,000 mewn grant Strydoedd Unigryw gan Arloesi Gwynedd Wledig at werth 拢20,000 o welliannau.

Mae sefydlu'r prosiect ymbarelau wedi costio 拢12,000, a bydd yr arian dros ben yn mynd at rannau eraill o ganol y dref.

Cafodd Hwb Caernarfon ei sefydlu yn 2016 dan y fframwaith Ardal Gwella Busnes a chyfraniadau busnesau lleol sy'n gyfrifol am gyllid blynyddol y cwmni o 拢96,000.

Nod Ardaloedd Gwella Busnes yw gwella ardal benodol trwy ddarparu gwasanaethau sy'n ychwanegol at yr hyn sydd ar gael eisoes.

Mae'r camau i wella edrychiad canol Caernarfon yn cynnwys ail-baentio ffrynt siopau, gosod gwaith celf ar ffenestri adeiladau gwag a threfnu cannoedd o fasgedi blodau.

Bydd Hwb Caernarfon yn ailagor canolfan groeso'r dref yn yr wythnosau nesaf ac yn lansio gwefan cyn diwedd y flwyddyn i hybu siopau ac atyniadau'r ardal.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gosodiad ymbarelau yn Salisbury y llynedd