麻豆官网首页入口

Ateb y Galw: Y cyflwynydd Daloni Metcalfe

  • Cyhoeddwyd
Daloni MetcalfeFfynhonnell y llun, Daloni Metcalfe

Y cyflwynydd Daloni Metcalfe sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan .

Daloni yw un o gyflwynwyr Ffermio ar S4C.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cofio bod yn nh欧 Nain a Taid Cerrig i fyny yng ngwaith d诺r yr Alwen ger Cerrig y Drudion, yn gwibio i fyny ac i lawr y coridor ar feic tair olwyn, a Nain yn gosod dillad i'w sychu uwchben yr Aga las yn y gegin.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Hogia band Y Cyrff.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y dynion oedd yn gwneud i Daloni gyffroi

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

O mam bach, mae 'na sawl un... ond ymysg y gwaetha' mae'n si诺r oedd ar fy noson gyntaf yn gweini yng ngwesty Waterloo ym Metws y Coed a tollti gr锚fi ar gwsmer. Ges i fy hel i'r bar i weithio wedyn a chael lot mwy o hwyl yn fano.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Wrth wylio Casualty nos Sadwrn.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes tad, lot fawr iawn o rheiny gan gynnwys byta siocled!

O archif Ateb y Galw:

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Wel, mae 'na ddau le a deud y gwir. Llyn Geirionydd yn Llanrhychwyn yn Nyffryn Conwy, lle ges i fy magu. A thraeth Towyn, Tudweiliog lle dwi'n byw r诺an.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Ew, mae 'na lawer iawn o'r rheina wedi bod. Roedd bod yng nghyngerdd byw y band Queen yn wych ac eto mae ista yn cael swper ar lan m么r efo'r plant a'r haul yn machlud o'n blaenau ni yn rhoi mwynhad pur i mi.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Optimist bob amser.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Ffilm - wrth fy modd efo rhai James Bond, ac yn edrych mlaen i'r nesaf. Llyfr - idiomau R E Jones.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd 25ain ffilm James Bond yn cael ei ryddhau fis Ebrill 2020 - dyma fydd ffilm olaf Daniel Craig fel 007

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Efo fy nheulu.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae gynnai ofn tywyllwch.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Yn diolch am fy nheulu a ffrindiau ffyddlon hollol ffantastig.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Cymru, Lloegr a Llanrwst (wrth gwrs) a Bohemian Rhapsody - hollol hollol wych.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cregyn gleision, cimwch Enlli a choux coffi.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Wel mi faswn i'n licio bod yn Jini, ein ci bach jack russell, am y dydd. Mae hi'n cael ei sbwylio yn l芒n a'i thrin fel y cw卯n!

Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Alun Elidyr

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 麻豆官网首页入口 Cymru Fyw