Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dechrau'r gwaith o adnewyddu Neuadd Pantycelyn
Bydd y gwaith o adnewyddu Neuadd Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dechrau ym mis Mehefin.
Ddydd Gwener cyhoeddodd y brifysgol eu bod wedi arwyddo cytundeb gyda chwmni adeiladu Morgan Sindall a bydd y gwaith yn dechrau ar 3 Mehefin.
Y gobaith yw y bydd y myfyrwyr cyntaf yn byw yn y neuadd, sy'n darparu ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, o fis Medi 2020.
Mae cost y prosiect wedi cynyddu erbyn hyn i 拢16.5m, ond wrth gyhoeddi'r newyddion dywedodd yr Is-Ganghellor Elizabeth Treasure bod yr arian i gyd yn ei le.
Y nod gwreiddiol oedd agor erbyn Medi 2019 ar gost o 拢12m - gyda 拢5m o'r arian hwnnw yn dod o Lywodraeth Cymru.
Yn 么l y brifysgol, roedd yr "heriau o ailddatblygu'r adeilad rhestredig Gradd 2" wedi golygu nad oedd modd cwblhau'r gwaith adnewyddu mewn pryd.
Bydd 200 o ystafelloedd en-suite yn rhan o'r neuadd newydd, ynghyd 芒 swyddfeydd ar gyfer Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), ffreutur a gofodau cymdeithasol.