Aflonyddu Merched: 'Angen canolbwyntio ar agweddau dynion'

Mae Heddlu De Cymru wedi lansio ymgyrch #YmarferFyHawl er mwyn diogelu merched sy'n ymarfer corff yn gyhoeddus a hynny ar Ddiwrnod Rhedeg Cenedlaethol,

Bwriad yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth bod sylwadau sarhaus, neu aflonyddu merched tra bo nhw'n ymarfer corff yn "annerbyniol" ac o bosib, yn drosedd.

Mae aelodau o glwb This Mum Runs - pob un wedi cael ei aflonyddu mewn un ffordd neu'i gilydd - yn galw ar ymgyrchoedd o'r fath i ganolbwyntio ar newid agweddau dynion.

Mae Heddlu'r De yn galw ar unrhyw un y mae aflonyddu wedi effeithio arnynt i gysylltu 芒 nhw.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Myfanwy "yn anffodus mae gan bob un menyw stori am rywbeth sydd wedi digwydd iddyn nhw tra'u bod yn rhedeg"

Cafodd gr诺p rhedeg This Mum Runs ei sefydlu er mwyn galluogi merched Caerdydd i gymdeithasu a chadw'n ffit ar yr un pryd.

Ond un peth sydd gan yr holl aelodau'n gyffredin yw bod pob un ohonynt wedi cael eu haflonyddu wrth ymarfer corff yn gyhoeddus.

Esboniodd Myfanwy Thomas bod aelodau'r gr诺p wedi bod yn trafod gyda'i gilydd eu profiadau o gael eu poenydio wrth redeg yn gyhoeddus.

Dywedodd: "Oedd un fenyw yn rhedeg ar ei phen ei hun, ac fe gath hi ei fflashio, tra bod merch arall yn rhedeg ac fe gafodd ei grabio gan ddyn.

"Ar 么l hynny, wnaeth hi ddim rhedeg eto - fe gollodd hi ei hyder yn llwyr."

Disgrifiad o'r llun, Mae'r gr诺p This Mum Runs yn awr o ymarfer corff unwaith yr wythnos, ac yn gyfle i famau "gymdeithasu a rhannu profiadau"

'Pam ddylai merched orfod newid?'

Wrth groesawu'r ymgyrch, pryder Myfanwy yw bod 'na ffocws ar gadw merched yn saff yn hytrach na newid agweddau dynion.

Dywedodd: "Mae 'na lot o ffocws ar sut i sicrhau bod menywod yn saff, rhedwch mewn gr诺p ac yn y blaen, ond pam ddylai merched orfod newid?

"Y dynion sy'n cambyhafio a sy methu trin merched gyda pharch, felly pam ddim creu ymgyrch ar eu cyfer nhw i esbonio sut mae eu hymddygiad yn gwneud i ni deimlo?"

Ond yn 么l un rhedwraig arall, Rhian Collins, mae 'na ddiffyg ymwybyddiaeth o'r ffaith bod aflonyddu yn drosedd.

"Ma fe'n awful, mae o'n neud chi mor self conscious. Mae'n rhaid ti fod yn berson cryf i fynd allan i redeg eto.

"Sain credu bod merched yn meddwl bod e'n ddigon difrifol i ffonio'r heddlu. Byddwn i ddim yn mynd at yr heddlu, achos mae'n si诺r bod ganddyn nhw bethau gwell i'w wneud.

"Ond sai'n si诺r pwy arall i fynd atyn nhw i fod yn onest?"

'Cas谩u y syniad'

Wrth lansio'r ymgyrch, dywedodd Heddlu'r De ei bod hi'n bwysig i'r cyhoedd fod yn ymwybodol bod aflonyddu yn "drosedd".

Dywed y Prif Gwnstabl Matt Jukes ei fod yn "cas谩u'r syniad y dylai merched gael eu hatal rhag rhedeg" am iddyn nhw gael eu haflonyddu neu dderbyn sylwadau sarhaus.

"Rydym am i bobl fod yn ddiogel," meddai, "ac i deimlo'n ddiogel. Mae gan bawb yr hawl i fwynhau ein hardaloedd cyhoeddus, a hynny yn rhydd o ofn".

Maen nhw'n galw ar unrhyw un y mae'r math yma o ymddygiad wedi cael effaith arnynt i gysylltu 芒 nhw.